Cwrdd â WNO

Leonardo Caimi

Cydnabyddir Leonardo Caimi am ei lais melfedaidd, cerddgarwch rhagorol a’i actio ardderchog, ac mae wedi sefydlu ei hun fel un o denoriaid mwyaf canmoledig ei genhedlaeth wrth berfformio mewn neuaddau a gwyliau gwych ar draws y byd fel y Royal Opera House, Covent Garden, Teatro alla Scala, y Teatro Real yn Madrid, y Bavarian State Opera yn Munich, Teatro Colón Buenos Aires, Deutsche Oper Berlin a Gŵyl Salzburg.

Gwaith diweddar: Y Dug Danilo Danilovitsch The Merry Widow, Alfredo Germont La traviata (Teatro Lirico di Cagliari); Des Grieux Manon Lescaut (State Opera Plovdiv, Israeli Opera); Werther Werther (Polish National Opera); Don José Carmen (Oper Leizpig)