Cwrdd â WNO

Louise Alder

Astudiodd Louise Alder yn Ysgol Opera Ryngwladol y Royal College of Music lle hi oedd yr Ysgolor Kiri Te Kanawa cyntaf. Enillodd Wobr Cantorion Ifanc yng Ngwobrau Rhyngwladol Opera 2017 a’r Wobr Gynulleidfa'r Fonesig Joan Sutherland yng Nghystadleuaeth Canwr y Byd yn 2017. Fe enillodd hefyd y Gystadleuaeth gyntaf i Unawdwyr Prydeinig Ifanc, ac mae’n dderbynnydd y Wobr John Christie Glyndebourne yn 2014.

Gwaith Tymor 2022/23:  Fiordiligi Così fan tutte (Bayerische Staatsoper), ac Anne Trulove The Rake's Progress (Glyndebourne Festival).