Cwrdd â WNO

Marienella Phillips

Mae Marienella Phillips yn fezzo-soprano, actor a chyfarwyddwr Prydeinig-Ffilipinaidd. Canodd yn Henry V (Donmar Warehouse) a chwaraeodd rannau Alice, Cambridge a Salisbury. Cafodd y cynhyrchiad hwn ei gyfarwyddo gan Max Webster a’i arwain gan Kit Harrington fel rhan o National Theatre Live. Roedd hi’n Gyfarwyddwr Cynorthwyol ar gyfer The Downfall of Don José (Longborough Festival Opera) a gyfarwyddwyd gan Maria Jagusz lle bu hefydd yn chwarae rhan Carmen. Canodd Marienella Anthem Genedlaethol Lloegr yn Stadiwm Twickenham ac Anthem Genedlaethol Cymru yn Stadiwm Ashton Gate. Graddiodd o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a David Seligman Opera Studio yn 2020. Yn ystod ei chyfnod yno, enillodd Wobrau Lleisiol Adelina Patti a Dolan Evans. Gwnaeth ei hymddangosiad cyntaf gydag Opera Cenedlaethol Cymru fel Mrs Charlton yn Dead Man Walking.