Max Hoehn
Trosolwg
Wedi’i eni yn Llundain i rieni Swisaidd-Hwngaraidd, dechreuodd Max Hoehn ei yrfa fel cyfarwyddwr dan hyfforddiant yn Theater an der Wien a’r Zürich Opera House. Fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol ac Adfywio, bu’n gweithio gyda chwmnïau megis Opera Cenedlaethol Cymru, Glyndebourne, Oper Frankfurt, Oper Leipzig, a’r Grand Théatre de Genève. Fe’i henwebwyd yn Gyfarwyddwr Ifanc Gorau yng Ngwobrau Opera Rhyngwladol 2016, ac enillodd wobr yn 9fed cystadleuaeth y Gwobrau Cyfarwyddo Operâu Ewropeaidd. Mae wedi cyfieithu Khovanshchina ar gyfer y Birmingham Opera Company ac wrthi ar hyn o bryd yn ysgrifennu libreto ar gyfer opera newydd, Sonata for Broken Fingers.
Gwaith diweddar: Cyfarwyddwr The Flying Dutchman (Teatro Nacional de São Carlos); The Consul (WNO); La Cenerentola (Stadttheater Bremerhaven); Biedermann and the Arsonists (Independent Opera yn Sadler’s Wells).