Cwrdd â WNO

Max Pappenheim

Mae Max Pappenheim yn gyfansoddwr ac yn ddylunydd sain ar gyfer perfformiadau byw, cafodd hyfforddiant mewn Drama Radio gyda'r BBC. Yn arweinydd, feiolinydd, pianydd ac organydd, mae Max yn Ddarlithydd Gwadd yn y Royal Central School for Speech and Drama. Mae'n gweithio'n rheolaidd gyda Silent Opera, The Faction a London Choral Sinfonia.

Gwaith diweddar: Dylunydd Sain Miranda (Opéra Comique / Opéra National de Bordeaux); Napoli, Brooklyn (Taith Genedlaethol); The Night of the Iguana (West End)