Cwrdd â WNO

Meriel Andrew

Soprano

Bu Meriel yn canu yn yr ysgol ac mewn Eisteddfodau ers yn bedair oed a chafodd wersi piano a chanu yn blentyn. Yn ddiweddarach, bu’n astudio am ddwy flynedd yn y Royal Northern College of Music and Drama ar y cwrs ôl-radd perfformio proffesiynol.

Cyn ymuno â’r WNO, roedd Meriel yn dysgu Saesneg yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni ers chwe blynedd cyn ail hyfforddi ym Manceinion.

Un o uchafbwyntiau Meriel gyda WNO hyd yma oedd perfformio rhan y Brif Iâr yn The Cunning Little Vixen, ac ar ôl hynny fe drodd ein merch bedair oed ati gan ddweud,

‘Mam, pan fyddaf yn tyfu, dwi am fod yn iâr fel ti!’

Mae Meriel wedi mwynhau canu i grwpiau bychain erioed a chyflwyno cerddoriaeth i bobl na all fynd i’r opera am wahanol resymau; mae canu a rhyngweithio gyda chynulleidfa ar lefel bersonol yn brofiad hynod emosiynol i Meriel.

Ymhlith diddordebau Meriel y tu hwnt i WNO, mae helpu ei gŵr ar eu rhandiroedd a cheisio canfod ffyrdd diddorol o baratoi'r cynnyrch maen nhw’n ei dyfu (50 o bethau i’w gwneud gyda Phwmpen Cnau Menyn!). Mae hi hefyd yn mwynhau treulio amser gyda’i theulu a mynd ar wyliau carafanio gyda ffrindiau.