Cwrdd â WNO

Mohit Mathur

Mae Mohit Mathur yn actor-dawnsiwr-coreograffydd Indiaidd, fu’n gweithio yn niwydiant ffilm India am 7 mlynedd cyn symud i’r DU. Mae wedi’i hyfforddi mewn dawnsio jas a chyfoes ac fe raddiodd o Drama Centre London. Ers cwblhau ei astudiaethau, mae wedi bod yn perfformio a chreu theatr sydd yn dathlu diwylliant De Asia.

Gwaith diweddar: Beyond Bollywood (London Palladium & Taith Ryngwladol); Bhangra Paa Le (Netflix); Jugaadistan (Lionsgate Play); Pericles (Craiova Shakespeare Festival)