Cwrdd â WNO

Nathanaël Tavernier

Astudiodd y bas Ffrengig Nathanaël Tavernier yn Geneva. O 2020 i 2023, roedd yn aelod fest y Badisches Staatstheater yn Karlsruhe lle perfformiodd fel Prentis Cyntaf Wozzeck, Y Brenin Aida, Basilio Il barbiere di Siviglia, Mochyn Daear/Offeiriad The Cunning Little Vixen, Commendatore Don Giovanni, Sarastro Die Zauberflöte, Zuniga Carmen ac Emireno Ottone. Mae rolau eraill yn cynnwys Le Médecin Pelléas et Mélisande yn yr Opéra-Comique Paris, ac Osmin Die Entführung aus dem Serail ar draws Ffrainc. Yn fwyaf diweddar, mae wedi canu rôl François Totrebat Die schwarze Maske ar gyfer Polish National Radio gyda Marin Alsop, Adamas Les Boréades yn Oldenburg, Ail Filwr Salome ar gyfer Opéra de Metz, ac ailganodd Emireno Ottone yn Karlsruhe.

Gwaith diweddar a’r dyfodol: Sarastro Die Zauberflöte (Theater Orchester Biel Solothurn), Nourabad Les Pêcheurs de Perles (Opéra de Dijon), Ruffini Masaniello a Thiwtor Le Comte Ory (Krakow).