Trosolwg
Astudiodd Nicola Rose yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, lle enillodd hi’r Wobr Cyfeiliant Bryan Davies a’r Wobr Ddawn Gerddorol Mansel Thomas. Gweithiodd hi fel Cymrawd Iau Cyfeiliant yn y Coleg cyn gorffen ei hyfforddiant yn y National Opera Studio. Ers 2004 mae Nicola wedi gweithio fel pianydd a répétiteur ar gyfer prosiectau ieuenctid WNO ac mae hefyd wedi gweithio gyda Music Theatre Wales ac adran ieuenctid y Royal Opera House.