Cwrdd â WNO

Osian Wyn Bowen

Daw Osian Wyn Bowen o Borth Tywyn, y dref harbwr yn Sir Gaerfyrddin. Graddiodd o’r Ysgol Opera Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, lle bu Osian yn astudio dan hyfforddiant yr hyfforddwr llais adnabyddus John Fisher a’r tenor Adrian Thompson. Osian oedd Artist y Dyfodol Scottish Opera 2022/2023 ym mlwyddyn ei phen-blwydd yn 60 oed. Yn 2019, Osian oedd Canwr Ifanc Cymreig y Flwyddyn MOCSA.

Gwaith diweddar: Ferrando Così fan tutte (Garsington Opera); Rinuccio Gianni Schicchi, Venditore di canzonetta Il tabarro,  Remendado Carmen (Scottish Opera).