Cwrdd â WNO

Peter Auty

Perfformiodd Peter Auty am y tro cyntaf yn broffesiynol gydag Opera North ac aeth ymlaen i fod yn brif unawdydd yn y Royal Opera House, Covent Garden. Bellach yn un o denoriaid mwyaf blaenllaw Prydain, mae wedi gweithio gyda chwmnïau yn y DU a thramor gan gynnwys Gŵyl Opera Glyndebourne, Scottish Opera, Frankfurt Opera, Aalto-Musiktheater Essen a New Zealand Opera.

Gwaith diweddar: Pinkerton Madam Butterfly, Don José Carmen (WNO); Des Grieux Manon Lescaut (Grange Festival, Opera Holland Park); Canio Pagliacci (Grange Festival, Longborough Festival Opera); Edgar Edgar, Lensky Eugene Onegin, Bill Flight (Scottish Opera)