Cwrdd â WNO

Pia Sutaria

Mae Pia Sutaria yn un o raddedigion y Royal Academy of Music, lle derbyniodd Ysgoloriaeth Theatrig Disney, ac mae hi hefyd yn athrawes gofrestredig gyda'r Royal Academy of Dance yn Llundain. Yn fwy diweddar, perfformiodd Pia rhan y prif gymeriad, Mala, yn nhaith y DU o'r sioe gerdd Bombay Superstar. Mae Pia wedi treulio dros ddegawd yn perfformio yn India ac yn Rhyngwladol, ac mae wedi bod ar daith ryngwladol gyda Navdhara India Dance Theatre yn Nhwrci, Israel, Canada, UDA, a Japan. Yn un o artistiaid unigol y National Centre for the Performing Arts a'r Royal Opera House ym Mwmbai, mae Pia hefyd wedi cynrychioli brandiau byd-eang fel Dove, Jockey, Puma, a Nike fel balerina cydnabyddedig yn India. Yn 2018, sylfaenodd Pia'r Institute of Classical & Modern Dance i wneud hyfforddiant galwedigaethol ar gyfer dawnswyr ifanc yn India yn fwy hygyrch. Mae'r ysgol wedi llwyddo i anfon myfyrwyr ar ysgoloriaethau i sefydliadau celfyddydol blaenllaw ym Mharis, Efrog Newydd, a Llundain.