Cwrdd â WNO

Rhian Hutchings

Mae Rhian Hutchings yn gyfarwyddwr opera, cynhyrchydd creadigol a chysylltwr sydd gan angerdd dros bobl ifanc a cherddoriaeth. Yn ei rôl bresennol mae’n Brif Weithredwr Anthem Cronfa Gerdd Cymru lle mae’n cefnogi addysg gerddoriaeth a cherddoriaeth ieuenctid yng Nghymru. Mae hi hefyd yn gyfarwyddwr sefydlol ac yn gadeirydd ymddiriedolwyr ar gyfer Operasonic, cwmni cymunedol cerddorol wedi’i leoli yng Nghasnewydd. Mae Rhian wedi gweithio yn y sector celfyddydol cyfranogol am y 20 mlynedd diwethaf, gan gynnwys arwain tîm Ieuenctid a Chymuned WNO, gyrru Partneriaeth ArtWorks Cymru i archwilio datblygiad yn y sector, a gweithio am sawl blwyddyn gyda’r rhwydwaith RESEO yn Ewrop. 

Gwaith diweddar: Cyfarwyddwr Cyswllt Brundibár, Cyfarwyddwr The Black Spider (Opera Ieuenctid WNO).