Cwrdd â WNO
Samantha Hay
Trosolwg
Astudiodd Samantha Hay yn y Royal Birmingham Conservatoire a’r Royal College of Music, lle derbyniodd Wobr Lieder Reginald Vincent, Gwobr Oratorio Cecil Drew a’r Symphony Hall Recital Prize. Mae hi wedi perfformio gydag Opera Europe yn Hwngari, Latfia ac ym Mhalas Gaeaf St Petersburg fel Lucia yn The Rape of Lucretia a gwnaeth ei debut gyda’r Royal Shakespeare Company yn ddiweddar fel Ceres yn The Tempest.
Gwaith diweddar: Brenhines y Nos The Magic Flute (Opera North, Opéra de Baugé, Opera Cenedlaethol Cymru); 2il Offeiriades Iphigénie en Tauride, Donna Elvira Don Giovanni (English Touring Opera)