
Sarah Crisp
Trosolwg
Hyfforddodd Sarah yn LAMDA. Wedi graddio a gweithio gyda’r NoFit State Circus arobryn, ymunodd gyda thîm rheoli llwyfan WNO, gan ddod yn Gyfarwyddwr Staff yn 2005. Cyfarwyddodd adfywiad Cavalleria rusticana & Pagliacci fel rhan o ddathliadau 70 mlwyddiant WNO. Yn 2020/2021, dyfeisiodd a chyfarwyddodd gynyrchiadau oedd yn cydymffurfio gyda Covid-19 ar gyfer Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae wedi gweithio fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol i Opera North ac wedi cyfarwyddo cynyrchiadau ar gyfer WNO, RWCMD, WAVDA a Chetham’s School of Music. Mae hi hefyd wedi rhoi sgyrsiau cyn-sioe ar gyfer WNO.
Gwaith diweddar: Cyfarwyddwr Chwarae Opera YN FYW (WNO); Prosiect Operas Cymunedol, Triple Bill – Don Giovanni, The Marriage of Figaro, The Barber of Seville, a Double Bill – The Telephone & The Medium (RWCMD); Cyfarwyddwr Adfywio La traviata,Migrations, Die Fledermaus (WNO); Cyfarwyddwr Cynorthwyol A Midsummer Night’s Dream, Albert Herring (Opera North); a Chyfarwyddwr Staff Blaze of Glory!, The Marriage of Figaro, Così Fan Tutte (WNO).