Cwrdd â WNO

Stella Woodman

Hyfforddodd Stella yn y Royal Northern College of Music. Ymunodd yn ddiweddarach â Chorws Glyndebourne, lle arhosodd am bedair blynedd. Cyn ymuno â chorws WNO yn llawn amser, gweithiodd fel cantores lawrydd ledled y DU ac fel athrawes ganu mewn ysgolion.

Mae uchafbwyntiau Stella yn WNO yn cynnwys dawnsio yn Ainadamar gyda dawnswyr wedi’u hyfforddi’n llawn, canu Messiah Handel yn Neuadd Dewi Sant a pherfformio gyda chorau meibion lleol yn Blaze of Glory!, sioe sy’n arddangos grym cerddoriaeth i godi calon.

Yn ei hamser sbâr, mae Stella yn mwynhau cerdded gyda’i gŵr a’u ci, Stanley, ynghyd â dawnsio a gwirfoddoli gydag Ambiwlans Sant Ioan.

Gwaith diweddar: German Mother Death in Venice, unawdydd Ffefrynnau Opera, Mrs Owen Blaze of Glory! (i gyd gyda WNO).