
Stephen McNeff
Ganwyd Stephen McNeff yn Iwerddon ac fe’i magwyd yn Abertawe. Astudiodd yn y Royal Academy of Music ac yn ddiweddarach, gweithiodd fel cyfansoddwr a cherddor ym maes theatr yn y DU, cyn dod yn gyfansoddwr preswyl yn y Banff Centre, Canada.
Mae Stephen wedi dod yn adnabyddus am ei waith ym myd opera, drwy Clockwork (yn seiliedig ar nofel Philip Pullman) yn Theatr Linbury y Tŷ Opera Brenhinol, ac yna comisiwn gan y Tŷ Opera Brenhinol, Gentle Giant, wedi’i addasu o lyfr Michael Morpurgo. Ef oedd ‘Cyfansoddwr Tŷ’ cyntaf y Gymdeithas Philharmonig Frenhinol | PRSF gyda Cherddorfa Symffoni Bournemouth (BSO), a arweiniodd at gydnabyddiaeth gynyddol am weithiau symffonig a siambr fel Heiligenstadt ar gyfer y BSO a Strip Jack Naked ar gyfer ensemble cyfoes y BSO, Kokoro.
O safbwynt opera, mae Banished (2016), Beyond the Garden (2020) ac A Star Next to the Moon (2024) wedi cael llwyddiant yn y DU a thramor. Yn ychwanegol at hynny, mae ei weithiau corawl yn cynnwys gwaith ar gyfer y BBC Singers a Chamber Choir Ireland, ochr yn ochr â gweithiau ar gyfer BBC NOW a’r National Symphony Orchestra yn Nulyn, yn ogystal â choncertos a gomisiynwyd gan London Mozart Players a’r Aalborg Symphony Orchestra yn Nenmarc.
