Cwrdd â WNO

Stephen Wells

Bass

Mae gan Stephen radd BMus (Anrhydedd) gan Victoria University of Wellington, Seland Newydd. Wedi hynny, astudiodd gwrs ôl-radd yn Royal Northern College of Music .

Cyn ymuno â WNO, bu Stephen yn gweithio fel canwr opera llawrydd gyda chorau a chorysau yn y DU yn bennaf.

Y tripiau dramor yw uchafbwynt Stephen gyda WNO hyd yma: ‘Rwyf wedi ymweld â Savonlinna, Muscat a Hong Kong gyda WNO, ac mae’r cyfle i ddarganfod rhywle newydd a dod a’n repertoire i gynulleidfaoedd newydd bob amser yn brofiad arbennig iawn.’

Y tu hwnt i WNO, mae diddordebau Stephen yn cynnwys beicio, gwylio ffilmiau, chwarae’r gitâr, ysgrifennu a recordio cerddoriaeth.