Cwrdd â WNO

Steve Marsden

Prif Chwaraewr yr Adran Basŵn

Astudiodd Steve yn Chetham’s School of Music ac Guildhall School of Music and Drama yn Llundain. Tra oedd yn fyfyriwr israddedig yn y Guildhall, ymunodd â WNO.

Mae uchafbwyntiau personol Steve hyd yma gyda WNO yn cynnwys cynyrchiadau o Otello a Falstaff gan Peter Stein, Pelleas et Melisande gyda Pierre Boulez ym Mharis, perfformiad cyngerdd Meistersinger ar BBC Proms a theithiau tramor i Tokyo ac Efrog Newydd.

Y tu hwnt i WNO, mae gan Steve fusnes gwneud cyrs ar-lein ei hun. Dywed pan nad yw’n gweithio mai: ‘Bwyd da, gwin a mynd ar wyliau yw fy ngwrth gyffur i amserlen brysur.’