Steven Osborne
Trosolwg
Ac yntau’n un o’r cerddorion a drysorir fwyaf ym Mhrydain, ganwyd Steven Osborne yn yr Alban ac fe astudiodd yn St. Mary's Music School yng Nghaeredin a’r Royal Northern College of Music. Yn ddiweddar, mae Steven wedi perfformio gyda’r Deutsches Sinfonieorchester Berlin, Salzburg Mozarteum, Radio Symphonieorchester Wien, Cerddorfa Ffilharmonig Oslo, London Symphony, Cerddorfa Symffoni Yomiuri Nippon ac Australian Chamber Orchestra, yng Ngŵyl Gerddoriaeth Aspen a Gŵyl Mostly Mozart yn Lincoln Center. Mae’n Athro Gwadd yn y Royal Academy of Music, ac fe’i hetholwyd yn Gymrawd o’r Royal Society of Edinburgh yn 2014. Ymhlith y gwobrau niferus y mae wedi eu hennill y mae gwobr Offerynnwr y Flwyddyn The Royal Philharmonic Society (2013) a dwy wobr Gramophone.