Cwrdd â WNO

Tia Camilleri

Mae Tia-zakura Camilleri yn awdur ac yn ymgyrchydd, yn dechrau ar ei thaith broffesiynol. Mae Tia yn aelod o grŵp Dylunio a Bwrdd Ymgynghori Ieuenctid Canolfan Mileniwm Cymru. Mae hi hefyd yn gweithio fel aelod cyswllt creadigol gyda Fio, yn Gynorthwyydd Cyfryngau gyda BeXcellence ac yn newyddiadurwraig ddinesydd gydag EYST. Mae hi'n perfformio ei barddoniaeth lafar yng nghynhyrchiad Fio: Landing Bolts; lle daeth o hyd i'w brwdfrydedd dros gyfarwyddo hefyd. Drwy weithio gydag ITV a BBC, mae Tia wedi ysgrifennu sawl erthygl newyddion, yn ogystal â chyd-gyflwyno ar ITV Wales. Nod Tia yw arwain y ffordd ar gyfer unigolion creadigol y dyfodol, sydd wedi teimlo diffyg cynrychiolaeth, a diffyg ymdeimlad o berthyn.