Cwrdd â WNO
Tom O'Gorman
Cafodd Tom ei eni a'i fagu yn Ne Llundain. Darganfyddodd ei angerdd dros ddawns trwy ei brofiad fel cleddyfwr cystadleuol. Graddiodd o’r Rambert School of Ballet & Contemporary Dance, ac yna teithiodd gyda VERVE 21. Fel artist llawrydd, mae Tom wedi gweithio o amgylch y DU ac Ewrop gyda llawer o goreograffwyr nodedig o fri. Ar hyn o bryd mae’n ddawnsiwr cwmni gyda Jack Philp Dance, ar ôl bod ar daith gyda’u cynhyrchiad diweddaraf Into the Novacene. Ymunodd Tom hefyd â Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru fel artist gwadd ar gyfer eu cynhyrchiad teithiol o Pulse ac mae wedi perfformio’n rhyngwladol gyda gweithiau gan SAY Dance a Marcos Morau, yn ogystal â chreu eu cynhyrchiad newydd August, gan Matthew Robinson.