Cwrdd â WNO

Tom Randle

Dechreuodd Tom Randle astudio arwain a chyfansoddi, ond arweiniodd ysgoloriaeth i astudio llais ato'n newid gyrfa a perfformiodd am y tro cyntaf gyda'r English National Opera fel Tamino yn The Magic Flute. Fel cyfansoddwr, perfformiwyd ei opera newydd Love me to Death am y tro cyntaf fel y digwyddiad olaf yn y Tête à Tête Opera Festival 2018. 

Gwaith diweddar: Goro Madam Butterfly (WNO); Loki The Monstrous Child (Royal Opera House); y brif ran yn Il ritorno di Ulisse (Longborough Festival Opera); Al Wasl (WNO/Expo 2020 Dubai); 9fed Symffoni Beethoven (Yomiuri Nippon Symphony Orchestra); Galargerdd Mozart (Handel and Haydn Society)