Cwrdd â WNO

Wyn Davies

Fe wnaeth Wyn Davies fwrw ei brentisiaeth gyda WNO yn y 1970au fel repetiteur a Chor-feistr ac ers hynny mae ei yrfa fel arweinydd wedi mynd ag ef i bedwar ban y byd. Am ddwy flynedd bu’n arweinydd cynorthwyol yn y Metropolitan Opera, Efrog Newydd, yn arweinydd yn y Banff Centre, Canada am ddau dymor ac yn Gyfarwyddwr Cerdd New Zeland Opera rhwng 2005 a 2019. Yma, mae ganddo gysylltiad hirhoedlog ag Opera North a’r Buxton Festival.