Cwrdd â WNO

Zwakele Tshabalala

Astudiodd y tenor De Affricanaidd Zwakele Tshabalala yn y Royal College of Music. Y Tymor diwethaf, ymunodd Zwakele ag English National Opera fel Harewood Artist ar ôl ei berfformiad clodwiw yn Paul Bunyan ym Mhalas Alexandra. Yn hwyrach, gwnaeth ei ddebut prif lwyfan ym mhremieres Prydeinig It’s A Wonderful Life gan Heggie a Blue gan Jeanine Tesori, lle canodd rôl Y Mab i gymeradwyaeth adolygwyr. Y Tymor hwn, mae’n dychwelyd i ENO fel Nick yn The Handmaid’s Tale a Gastone yn La traviata. Mae gwaith arall ar y gweill yn cynnwys ei ddebut UDA gyda Marin Alsop a’r Colorado Symphony yn Denver (Symffoni Rhif 9 Beethoven), ei ddychweliad i'r Royal Albert Hall i ganu Gospel Messiah gyda’r BBC Concert Orchestra, a’i ddebut ar gyfer Opéra National de Lyon fel Trin yng nghynhyrchiad newydd Tatjana Gürbaca o La fanciulla del West o dan arweinyddiaeth Daniele Rustioni.  

Gwaith diweddar: Gastone La traviata a Nick The Handmaid’s Tale (English National Opera).