Newyddion

Nodi Mis Hanes Pobl Dduon

21 Hydref 2021

Tiger Bay, a adnabyddir bellach fel Bae Caerdydd, yw’r gymuned aml-ethnig hynaf yng Nghymru, ac mae’n gartref i Ganolfan Mileniwm Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru. Mae Shirley Bassey yn ogystal â’r gantores jazz a sylfaenydd Hanes Pobl Dduon Cymru, Patti Flynn, ymysg yr unigolion amlwg a anwyd yn yr ardal.

Achosodd y mudiad Mae Bywydau Du o Bwys i ni fyfyrio ar ein bywydau ein hunain, yn ogystal â chyfraniad eraill o fewn ein cymunedau. Yn gynharach yn y mis, cafodd pennaeth du cyntaf Cymru, Betty Campbell, ei hanfarwoli mewn efydd gyda cherflun arbennig yn Sgwâr Canolog Caerdydd. Cafodd ei gwaith arloesol o hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ei gydnabod yn rhyngwladol ac roedd hi'n rhannol gyfrifol am greu Mis Hanes Pobl Dduon.

I nodi Mis Hanes Pobl Dduon 2021, rydym yn taflu goleuni ar rhai o’r unigolion sy'n gweithio ac yn perfformio ym myd celfyddydol Cymru.

Roedd Agoriad Swyddogol y Chweched Senedd - a welodd y fenyw groenliw gyntaf i gael ei hethol - yn cynnwys perfformiad o Ymuno, cân gan Lily Beau (a achosodd storm ar Twitter yn dilyn ei pherfformiad yng nghystadleuaeth Cân i Gymru 2021) ac Eädyth Crawford. Cyfansoddodd Eädyth, ynghyd â’i chwaer Kizzy - y mae’r ddwy’n ffynnu ar y sîn bop Gymraeg - y gerddoriaeth ar gyfer dau ddarn yn ein cyfres Creu Newid - The Pledge gan Shreya Sen Handley, a Death of a Fool gan Edson Burton. Mae’r gyfres hefyd yn gweld gwaith gan yr ysgrifennydd a anwyd yng Nghameroon, ond sy’n byw yng Nghymru, Eric Ngalle Charles a Miles Chambers, a ddywedodd: 


Fel celf aruchel, gall opera wneud llawer i frwydr pobl groenddu. Mae angen i ni ei datgysylltu oddi wrth ei gorffennol hiliol a chreu opera sy'n adlewyrchu'r gymdeithas amlddiwylliannol yr ydym yn byw ynddi, nid yn unig i roi terfyn ar yr anghydraddoldebau amlycaf sy'n gysylltiedig â'r diwylliant croenddu, ond i gynnal dyfodol ar gyfer opera.


Gyda hyn mewn cof, mae ein comisiwn newydd Migrations, yn archwilio ymfudo a’i wahanol ffurfiau, wedi’i gyfansoddi gan Will Todd a'i ysgrifennu gan chwe awdur o gefndiroedd amrywiol.

Ar y llwyfan, mae cantorion opera Du yn chwarae rôl sylweddol yn llywio’r byd opera.

O Jamaica i Efrog Newydd a Chymru, mae’r bas-bariton Syr Willard White yn cael ei ystyried i fod yn un o sêr opera’r 40 mlynedd diwethaf mwyaf uchel ei barch, ac mae wedi ymuno â WNO i berfformio rolau fel Osmin yn The Abduction from the Seraglio gan Mozart, Zaccaria yn Nabucco  a rôl deitl Boris Godunov. Dychwelodd i Gymru yn 2013 i berfformio mewn cyngerdd gyda Cherddorfa WNO yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Yn ystod ein Tymor y Gwanwyn 2022 byddwn yn croesawu Elizabeth Llewellyn am y tro cyntaf, yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn y rôl deitl yn opera Janáček, Jenůfa - wedi iddi ddychwelyd i'r Metropolitan Opera yn Hydref 2021.

O artistiaid sefydledig i berfformwyr ifanc addawol, mae sawl un wedi perfformio ar ein llwyfannau dros y blynyddoedd: Chanáe Curtis a Themba Mvula (The Consul, Tymor FREEDOM) ac yn fwy diweddar, Artist Cyswllt WNO, Isabelle Peters, a berfformiodd gyda’r Cwmni am y tro cyntaf yn gynharach y Tymor hwn fel Berta yn The Barber of Seville, ac sydd hefyd i’w gweld yn ein cyfres Aralleirio.

Ar gyfer y trydydd fideo yn ein cyfres Aralleirio, dewisodd y cyfarwyddwr Rebecca Hemmings yr eiconig Nessun Dorma o Turandot gan Puccini, a chreu fideo i dynnu sylw at anghyfiawnder hiliol nad yw llawer yn ei weld, wedi’i berfformio gan Roland Samm. Cafodd hwn ei lansio ar 1 Hydref i nodi dechrau Mis Hanes Pobl Dduon.