Cyngherddau Ysgolion

Camwch i mewn i fyd rhyfeddol opera a cherddoriaeth glasurol gydag Opera Cenedlaethol Cymru.

Nod ein cyngerdd rhad ac am ddim yw ysbrydoli a chynyddu cariad at gerddoriaeth a chreadigedd i ddisgyblion blynyddoedd 3 i 7.

Yn hwyliog, bywiog a difyr, gallwch ddisgwyl caneuon poblogaidd a darnau llai cyfarwydd y byd opera, ffilm a theledu yn dod yn fyw drwy’r Gerddorfa WNO fyd enwog a grŵp o unawdwyr gwefreiddiol. Y cyfle perffaith i glywed, mwynhau a dod i gysylltiad â cherddoriaeth fyw, mewn amgylchedd anffurfiol.

Mae ein Cyngherddau Ysgol byw wedi’u dylunio i gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru a’r Cwricwlwm Cenedlaethol yn Lloegr a’u helaethu gan becyn adnoddau am ddim i athrawon i’w galluogi i gefnogi dysgu yn y dosbarth cyn ac ar ôl y cyngerdd (ar gael ar-lein o fis Medi 2025).


Tymor yr Hydref 2026

30 Medi WMC - Donald Gordon Theatre, Caerdydd 1pm - Cymraeg

23 Hydref Llandudno - Venue Cymru 1pm - Cymraeg

11 Tachwedd Southampton - Mayflower Theatre 1pm

20 Tachwedd Rhydychen - New Theatre 1pm

27 Tachwedd Plymouth - Theatre Royal 1pm

Mae'r gyngerdd yma ar gael i archebion grŵp ysgol yn unig.

Bydd y gyngerdd yn para tua 55 munud, heb egwyl.


Rydym yn awyddus i glywed eich barn ar ein Cyngerdd Ysgolion. Gallwch lawrlwytho ein tudalen Adolygiad fel y gall eich disgyblion ei chwblhau.


Am fwy o wybodaeth am ein rhaglen ysgolion, cysylltwch â'n cydlynydd ysgolion, schools@wno.org.uk



Prif Gefnogwr - Prosiectau ac Ymgysylltu