

Dathliad Ganol Haf Mendelssohn, Finzi, Owain Llwyd, Vaughan Williams
Mae'r digwyddiad yma wedi gorffenTrosolwg
Bydd Cerddorfa WNO yn perfformio rhaglen ganol haf hyfryd o ffefrynnau bythol a chomisiwn newydd sbon.
Mendelssohn Agorawd A Midsummer Night’s Dream
Finzi Let us Garlands Bring
Owain Llwyd Y Gogarth
EGWYL
Vaughan Williams The Lark Ascending
Mendelssohn Symffoni Rhif 4 ‘Italian’
Mae harddwch parhaol The Lark Ascending gan Vaughan Williams yn ymddangos rhwng dau o gampweithiau Mendelssohn: y hardd a’r rhamantus Agorawd A Midsummer Night’s Dream a’i Symffoni Rhif 4, sy’n darlunio awyr las a chefn gwlad agored yr Eidal.
I gwblhau’r rhaglen bydd un o’r gosodiadau mwyaf cyseiniol o waith Shakespeare, sef cylch caneuon Gerald Finzi, Let us Garlands Bring, a gysegrwyd i Vaughan Williams ar achlysur ei benblwydd yn 70, a darn newydd sbon gan y cyfansoddwr o Gymru Owain Llwyd, Y Gogarth, a ysbrydolwyd gan Pen-y-Gogarth Llandudno ar bywyd gwyllt o’i gwmpas.
Yn ymuno a Cherddorfa ddawnus WNO mae’r cyngerddfeistr David Adams ac Artist Cyswllt WNO Aaron O’Hare.
Ymunwch â’r Cyfansoddwr Owain Llwyd ac adran trombôn Cerddorfa WNO am 6:30pm ar gyfer sgwrs cyn-berfformiad anffurfiol cyn y gyngerdd yn Pontio, Bangor a Glan yr Afon, Casnewydd. Darganfyddwch mwy am Y Gogarth, a fydd yn cael ei berfformio am y tro cyntaf erioed ar y daith hon, a sut beth yw bod yn aelod o Gerddorfa WNO.