

Dathliad Blwyddyn Newydd Cerddorfa WNO
–Trosolwg
Dathlwch y flwyddyn newydd mewn steil wrth i Gerddorfa WNO berfformio Cyngerdd Blwyddyn Newydd byd-enwog Fienna.
Beth am gael gwared ar ddigalondid mis Ionawr a gwneud eich gaeaf yn well gyda detholiad hudolus o waltsiau chwyrlïog, polcas bywiog a dawnsiau egnïol i godi calon. Cewch ddisgwyl ffefrynnau poblogaidd o'r canon clasurol a fydd yn destun cyffro a hapusrwydd i chi.
Dan gyfarwyddyd yr arweinydd James Southall, mwynhewch rai o'r ffefrynnau gan Strauss ynghyd ag ambell i beth annisgwyl. Bydd rhagor o fanylion ar gael maes o law.
Wrth i ni edrych tuag at y flwyddyn newydd, mae'r eitem hon yng nghalendr Cerddorfa WNO yn gyngerdd perffaith. P'un a ydych yn darganfod y traddodiad am y tro cyntaf neu'n dychwelyd am fwy, byddwch yn waltsio i mewn i 2027.
Defnyddiol i wybod
Tua dwy awr hefo un egwyl