Nadolig Bryn

Mae'r digwyddiad yma wedi gorffen

Trosolwg

Dewch i fwynhau noson o ganu a dathlu Nadoligaidd gyda’r bariton byd-enwog o Gymru, Syr Bryn Terfel, sy’n adnabyddus am ei lais cyfoethog a’i berfformiadau deinamig.

Yn ymuno ag ef fel gwestai arbennig fydd y soprano Pumeza Matshikiza a darperir y cyfeiliant gan Gerddorfa WNO, felly gallwch ddisgwyl cerddoriaeth dymhorol, hudolus, carolau Nadolig a chaneuon traddodiadol Cymreig.

Noson berffaith i deulu a ffrindiau ddod ynghyd i ddathlu tymor y Nadolig.


Lleoliadau a Thocynnau