
Cyngerdd i’r Teulu
–Trosolwg
Cyngerdd na fu erioed mo’i fath.
Mae tân wedi’i ddwyn gan y duwiau! Mae dau arth wedi dianc yn rhydd, mae pryf yn ceisio canu, ac mae Mars Holst ar fin ysgwyd y theatr.
Croeso i gyngerdd lle mae’r gynulleidfa’n cael chwarae.
Bydd y cyflwynydd Elin Llwyd yn arwain eich teulu drwy fythau Groeg Hynafol, Rhufain a Chymru. Gwrandewch, clapiwch ac ymgymerwch â’r heriau wrth i gerddoriaeth, dawns a goleuadau anhygoel ddod â duwiau, creaduriaid a chwedlau’n fyw.
Allwch chi glapio mewn 5/4? Sut beth yw sŵn harpsicord go iawn? A sut mae’n teimlo pan mae holl Gerddorfa WNO yn chwarae mor uchel â phosib? Does dim angen i chi wybod yr atebion - na’r gerddoriaeth - cyn i chi gyrraedd. Bydd Elin yn eich helpu i’w darganfod wrth ichi fynd!
Mae’r cyngerdd yn para bron i un awr a does ganddo ddim egwyl. Mae croeso i blant wneud synau, ymateb ac ymuno yn y sesiwn. Mae amddiffynwyr clustiau ar gael, gyda chapsiynau Cymraeg a Saesneg a dehongli BSL er mwyn helpu mwy o bobl i ddilyn y symudiadau.
Defnyddiol i wybod
Mae'n para am oddeutu awr heb egwyl
Bydd perfformiadau yn Llandudno a Chaerdydd yn y Gymraeg.
Bydd perfformiad Caerdydd gyda dehongliad BSL.
