Cerddoriaeth o’r Galon Cerddorfa WNO
Mae'r digwyddiad yma wedi gorffenTrosolwg
Gorfoleddwch yn rhai o alawon mwyaf rhamantus a pheraidd opera a ysgrifennwyd erioed
Mae Cerddorfa WNO a’r arweinydd Matthew Kofi Waldren yn ymuno â’r tenor Trystan Llŷr Griffiths a’r soprano Nadine Benjamin mewn rhaglen wefreiddiol sy’n cynnwys detholiad o ariâu godidog, deuawdau a gweithiau cerddorfaol sy’n cyfleu dwyster cariad, chwant a thorcalon.
Yn labrinth o emosiynau, profwch Agorawd i La forza del destino gan Verdi a Dawns Gypsy o Carmen gan Bizet ochr yn ochr ag uchafbwyntiau o La traviata, Norma, Tosca, Eugene Onegin a llawer mwy mewn set gyfoethog a godidog o gerddoriaeth o’r galon.
Rhaglen
Verdi Agorawd La forza del destino
Verdi Questa o Quella o Rigoletto
Verdi È strano - Sempre libera o La traviata
Puccini Intermezzo o Manon Lescaut
Puccini Recondita armonia o Act I Tosca
Puccini Vissi d’arte o Tosca
Puccini Preliwd Act III o Madam Butterfly
Puccini O soave fanciulla o La bohème
EGWYL
Tchaikovsky Polonaise o Eugene Onegin
Tchaikovsky Kuda Kuda o Eugene Onegin
Tchaikovsky Golygfa Llythr o Eugene Onegin
Bizet Dawns Gypsy o Carmen
Bellini Casta Diva o Norma
Offenbach Agorawd Orpheus in the Underworld
Lehár Lippen Schweigen o The Merry Widow
Defnyddiol i wybod
Tua dwy awr gan gynnwys un egwyl