Fy Mamwlad Smetana
Mae'r digwyddiad yma wedi gorffenTrosolwg
Paentiad cerddorol o falchder a chariad at wlad
SmetanaMá Vlast
Cyn ymddangosiad Cerddorfa WNO yng Ngŵyl Wanwyn fawreddog Prag yn 2023, byddant yn talu teyrnged i dad cerddoriaeth Tsiec, Bedřich Smetana, yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd.
Wedi’i gyfansoddi rhwng 1874-1879, mae Má Vlast gan Smetana yn gasgliad o chwe phortread disglair o gerddoriaeth sy’n darlunio tirwedd, hanes a chwedlau mamwlad y cyfansoddwr, a elwir bryd hynny yn Bohemia.
O’r grychdon gyntaf fel ffynnon fynyddig fechan, dilynwch yr Afon Moldau wrth iddi lifo drwy’r Goedwig Bohemaidd lle daw ar draws helfa, parti priodas a hyd yn oed rhai nymffau dŵr. Profwch anghyseinedd cythryblus Rhaeadr Sant Ioan â dinas Prague, lle perfformiwyd y darn am y tro cyntaf ym mis Tachwedd 1882.
Pwy well i arwain y rhaglen gwladgarol hon na Chyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO, Tomáš Hanus, a gafodd ei eni yn y Weriniaeth Tsiec.
Cefnogir gan Mathew a Lucy Prichard
Defnyddiol i wybod
Tua un awr a 35 munud heb egwyl
Cyflwynwyd fel rhan o'r Gyfres Caerdydd Glasurol