

Panig! Attack! Perfformiad Opera Ieuenctid Seligman
Trosolwg
Yn dathlu 20 mlynedd o Opera Ieuenctid Cenedlaethol Cymru
Mae'r comisiwn dwyieithog newydd sbon hwn, a gyfansoddwyd gan Gyfarwyddwr Cerddoriaeth Opera Ieuenctid WNODan Perkin, gyda libretto doniol ac unigryw gan Bethan Marlow, yn ein harwain i ddilyn taith dwy gang wahanol iawn, sydd â syniadau ecsentrig iawn ynglŷn â’r byd.
Yn herio ei gilydd i feddwl yn wahanol a gweld y byd o ogwydd newydd, mae hon yn stori o oroesi mewn argyfwng byd-eang. I gyfeiliant Cerddorfa WNO, mae hon yn stori galonogol sydd nid yn unig yn arddangos talent bresennol a gorffennol Opera Ieuenctid WNO, a’r ymrwymiad mae ei aelodau wedi ei ddangos dros y blynyddoedd, ond mae hefyd yn dangos pwysigrwydd canfod cysylltiad, gobaith, ac yn fwy na dim, cyfeillgarwch.
Yn ddiolchgar, mae WNO yn cydnabod cymynrodd hael y diweddar David Seligman a Rhodd Phillipa a David Seligman i Berfformiad Opera Ieuenctid WNO Seligman ac Opera Ieuenctid WNO.
Cefnogir Perfformiad Opera Ieuenctid WNO Seligman ac Opera Ieuenctid WNO gan Ymddiriedolaeth Gibbs, Ymddiriedolaeth Clive Richards, Andrew Fletcher a Ffrindiau a Phartneriaid WNO.
Pricing
O dan 16 mlwydd oed
£15 pan fyddant gydag oedolyn â thocyn pris llawn (yn ddibynnol ar argaeledd)
Defnyddiol i wybod
Tua awr, heb egwyl
Synopsis
Crynodeb
Rydym mewn... wel, rhywle.cMae’n rhyw fath o dir neb. Byd adfeiliedig, diffaith sy’n
teimlo’n wag a blinedig. Mae’nteimlo fel bod llawer o fywyd wedi bod yma. Mae’n teimlo’n
anghofiedig. Mae’r Criw Panig yn camu allan yn ofalus o’ulloches. Maent yn hynod a
rhyfedd, yn ddeallus ac ofnus. Mae Criw Attack yn cyrraedd. Maent yn uchel eu cloch ac anhrefnus, yn siarad a chanu ar draws ei gilydd, yn mynnu cael eu lleisiau wedi eu clywed. Mae’r ddau griw yn troi o gwmpas ei gilydd, nes eu bod yn dod o hyd i dir cyffredin yn y lle mwyaf annisgwyl.
Yng nghanol y dathlu, daw criw o ffrindiau, syddheb gwrdd ers blynyddoedd, wyneb yn wyneb, ond maent nawr yn siarad ieithoedd gwahanol. Daw arweinwyr y ddau griw at ei gilydd i gytuno ar sut i symud ymlaen, does neb yn cofio pwy oedd berchen y tir hwn ac felly dylent ddarganfod ffordd o’i rannu. Ond fel yr oeddent yn cytuno, dyma’r ffrindiau yn dychwelyd gyda rhywbeth gwerthfawr, ac mae’r ddau arweinydd eisiau bod yn berchen arno. Mae’r criwiau’n gwahanu, yn barod am frwydr. Mae hyd yn oed y ffrindiau yn gwahanu, er eu bod yn teimlo yn eu calonnau bod dewis arall i’r rhyfel hwn. Mae’r frwydr yn ffrwydriad ffyrnig o sain gyda chanlyniadau creulon - all y ffrindiau ddod ynghyd yng nghanol y rhyfel ffyrnig hwn? Ac a fydd eu lleisiau ddigon cryf i gael eu clywed?
Mae PANIG! ATTACK!! yn stori afresymol sy’n arallfydol, ac eto’n ymdrin â themâu sy’n teimlo’n gyffredin iawn i’n pobl ifanc heddiw.