Ailddyfeisio'r Naratif Trafodaethau Madam Butterfly
Mae'r digwyddiad yma wedi gorffenTrosolwg
Mae WNO yn cymryd stori Cio-Cio-San fel ysbrydoliaeth ar gyfer cyfres o sgyrsiau digidol yn ystyried ystod eang o bynciau rydym yn dal i fynd i’r afael â nhw yn yr 21ain Ganrif
Mae Lindy Hume, cyfarwyddwr Madam Butterfly, yn cynnig cyd-destun cyfoes sy’n pigo’r cydwybod ar gyfer ein cynhyrchiad newydd o’r opera glasurol hon. Mae naratif a lleoliad y darn gwreiddiol wedi cael eu hystyried yn broblemus yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Wedi’i gynnal gan Gyfarwyddwr Cyffredinol WNO, Aidan Lang, mae’r panel yn ystyried sut mae tynerwch teimlad yn newid yn fyd-eang ac yn dylanwadu ar sut ydym yn dewis pa storiâu i'w hadrodd ar ein llwyfannau a sut ydym yn eu hadrodd. A oes rhai cynyrchiadau nad ydynt yn briodol nac yn cael eu perfformio mwyach? Yn ymuno ag Aidan i drafod y materion, mae: Lindy Hume, cyfarwyddwr Madam Butterfly; Michael McCarthy, Cyfarwyddwr Artistig Music Theatre Wales; Michael Williams, Prif Weithredwr Gŵyl Ryngwladol Buxton a chyn-Reolwr Cyfarwyddwr Cape Town Opera.
Defnyddiol i wybod
Bydd trafodaethau’n para tua un awr
Bydd digwyddiadau byw’n cael eu cynnal dros Zoom - bydd cyfarwyddiadau ymuno’n cael eu hanfon ar ôl ichi gofrestru