Rebecca Evans a Tomáš Hanus gyda Cherddorfa WNO
Trosolwg
Weber Agorawd o Der Freischütz
MozartAh, lo previdi
Beethoven Symffoni Rhif 3 Eroica
Mae’r soprano byd-enwog Rebecca Evans yn uno â Cherddorfa WNO, sy’n fawr ei bri, ynghyd â Chyfarwyddwr Creadigol WNO Tomáš Hanus ar y podiwm ar gyfer cyngerdd haf bendigedig.
Gyda chymysgedd hyfryd o repertoire, mae'r cyngerdd yn cychwyn gydag agorawd gyffrous opera Ramantaidd Weber, Der Freischütz(The Marksman), ac yn parhau gydag aria gyngerdd aruchel Mozart, Ah, lo previdi, wedi’i chanu gan Rebecca Evans, sy’n adrodd chwedl Andromeda a’i haberth.
Mae’r cyngerdd yn cloi gyda gwychder a harddwch parhaus Beethoven a’r Drydedd Symffoni hyfryd Eroica, sy’n cael ei hystyried yn un o weithiau mwyaf poblogaidd y cyfansoddwr yn gonglfaen i’r cyfnod potio o’r cyfnod Clasurol i'r cyfnod Rhamantaidd.
Ymunwch â ni ar gyfer cyngerdd haf bythgofiadwy o gerddoriaeth fendigedig a chanu ysblennydd.