The Nightingale Stravinsky
Mae'r digwyddiad yma wedi gorffenTrosolwg
Daw'r opera chwedlonol swynol hon i fyw gan wyth o gantorion, 11 pypedwr a chast o bypedau gwych maint go iawn.
Yn dilyn cyngor y Llywodraeth a'r angen i theatrau fod ar gau ledled y DU, mae'n ddrwg gennym eich hysbysu na fydd perfformiadau Opera Cenedlaethol Cymru yn ystod Haf 2020 yn digwydd.
Mae hyn yn cynnwys y perfformiadau canlynol:
- Mae The Barber of Seville yng Nghanolfan Mileniwm Cymru wedi'i gohirio, ond bydd yn dychwelyd am dri pherfformiad ym mis Medi a mis Hydref 2020
- Mae sioe ddwbl The Nightingale a Bluebeard's Castle wedi'i chanslo yn y Ganolfan, yn yr un modd â pherfformiad prynhawn y dydd Sul hwnnw o The Nightingale
- Mae'r Diwrnod Darganfod Opera am ddim hefyd wedi'i ganslo ar y dydd Sul.
- Mae'r ddau berfformiad o'r bil dwbl The Nightingale a Bluebeard's Castle wedi'u canslo yn y Royal Opera House, Llundain.
Rydym yn deall y bydd hyn yn siom enfawr, ond mae digwyddiadau cyfredol wedi golygu ei bod yn amhosib i WNO baratoi, ymarfer a llwyfannu'r cynyrchiadau hyn i agor y Tymor ym mis Mehefin.
Os ydych wedi archebu tocynnau ar gyfer unrhyw rai o'r perfformiadau sydd wedi'u heffeithio, bydd tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid y theatr yn cysylltu â chi drwy ebost i egluro'r opsiynau ar gael i chi. Bydd Canolfan Mileniwm Cymru yn cysylltu â chi drwy ebost, yn ystod wythnos 20 Ebrill 2020, i egluro'r opsiynau ar gael i chi, ac rydym yn cydweithio â'r Royal Opera House i gysylltu â chwsmeriaid cyn gynted ag sy'n bosibl. Byddwch yn ymwybodol eu bod, ar hyn o bryd, yn ceisio rhoi trefn ar nifer fawr o berfformiadau wedi'u canslo a'u haildrefnu mewn trefn gronolegol, gan fod y sefyllfa gyda Covid-19 wedi effeithio ar eu rhaglen wanwyn gyfan. Byddem, felly, yn gwerthfawrogi pe baech yn peidio â chysylltu â nhw'n uniongyrchol yn y cyfamser, er mwyn eu helpu i brosesu holl ad-daliadau a chyfnewidiadau cwsmeriaid mor effeithlon ag sy'n bosibl yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Mae Ymerawdwr Tsieina yn cael ei swyno gan gân yr Eos, ond nid yw cyflwyno fersiwn fecanyddol yn gallu cymryd lle'r aderyn go iawn ac mae'r Ymerawdwr yn mynd yn sâl. Dim ond pan fydd yr Eos go iawn yn dychwelyd, y mae'n sylweddoli na ellir efelychu gwir emosiwn cerddoriaeth, a chaiff ei adfer i iechyd.
Credir bod stori Hans Christian Andersen wedi cael ei hysbrydoli gan gariad annychweledig yr awdur tuag at y soprano, Jenny Lind, a oedd yn cael ei hadnabod fel "Eos Sweden". Mewn cydweithrediad â Blind Summit, y cwmni theatr bypedau rhyngwladol enwog, bydd wyth o gantorion, 11 pypedwr a chast o bypedau gwych maint go iawn yn dod â'r opera chwedlonol swynol hon yn fyw. Bydd sgôr ysgubol Stravinsky yn cael ei harwain gan Cyfarwyddwr Cerdd WNO, Tomáš Hanus.
Defnyddiol i wybod
Bydd yr opera hon yn para tua 50 munud.
Cenir yn Rwseg, gydag uwchdeitlau Cymraeg a Saesneg
Mae'r perfformiad hwn o The Nightingale yn rhan o Ddiwrnod Darganfod Opera WNO. Am fwy o wybodaeth, ewch i wno.org.uk/operadays
Pob sedd £10 oedolion a £5 plant.