

The Railway Children Aber Musicfest
Trosolwg
Mae Musicfest Aberystwyth yn falch o gyflwyno’r opera The Railway Children, dyma’r tro cyntaf iddi ymddangos yng Nghymru! Cafodd ei chreu gan Mark-Anthony Turnage, sy’n un o gyfansoddwyr gorau’r byd, a’r librettist Rachel Hewer, ac mae’n darn wedi cael ei ysbrydoli gan y llyfr stori enwog The Railway Children gan Edith Nesbit.
Dyma’r ail berfformiad o’r opera hon erioed, yn dilyn premiere yn Glyndebourne yn 2025.
Caiff ei pherfformio gan gerddorion gwych Opera Cenedlaethol Cymru, dan arweiniad Iwan Teifion Davies, Cyfarwyddwr Artistig Musicfest. Mae’r cast yn cynnwys nifer o’r cast gwreiddiol ynghyd â myfyrwyr talentog Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd.