The Very Last Green Thing Perfformiad Opera Ieuenctid Seligman
–Trosolwg
Cynnal y dyfodol gyda chymorth y gorffennol
Yn dilyn llwyddiant perfformiad y llynedd, mae Opera Ieuenctid clodwiw WNO yn ôl gyda sioe newydd sbon.
Mae’r flwyddyn 2423 wedi cyrraedd ac mae grŵp o blant ysgol a'u hathro android yn mynd am dro yn yr awyr agored, ac yn dod o hyd i gapsiwl amser, anrheg a adawyd gan blant 400 o flynyddoedd yn ôl.
Yn y bocs, maent yn dod o hyd i gasgliad o bethau rhyfedd a pheth gwyrdd crebachlyd. Mewn byd modernaidd lle mae unigoledd a natur yn bethau anhysbys, maent yn sylweddoli gymaint mae’r byd wedi newid ac yn herio eu hunain i ddysgu am y gwrthrychau maent wedi dod ar eu traws. Yn reddfol mae un o’r plant yn gwrthod cymryd sylw o gais yr android i anwybyddu’r planhigyn ac yn dawel bach, mae’n mynd â’r planhigyn adref i’w ddyfrio, gan agor byd o bosibiliadau newydd i'r plant i gyd.
Mae’r Cyfarwyddwr, Rhian Hutchings, a’r Dylunydd, Greta Baxter, yn uno i greu'r cynhyrchiad hwn a fydd yn ein dysgu am bwysigrwydd caru a meithrin popeth byw.
Yn dilyn y perfformiad o opera Cary John Franklin, bydd y grŵp 14-18 oed yn perfformio opera newydd 10 munud o hyn o'r enw Solomon Ring - darn a ddyfeisiwyd ganddynt gyda'r tîm creadigol sy’n archwilio sut y gall pethau sy'n ymddangos yn ddifywyd ddal pŵer go iawn.