The O Word
Cyfres un
Ymunwch â'r newyddiadurwr sy'n frwd dros opera, Gareth Jones, yn ei archwiliad o fyd opera, ar y llwyfan a thu hwnt. Gyda gwesteion yn amrywio o gerddorion adnabyddus ledled y byd i ffigyrau amlwg o fewn y celfyddydau, diwylliant a thu hwnt, bydd Gareth yn ceisio datrys rhai o bynciau llosg byd opera.
Pennod Un: Beth sydd ei angen i fod yn ganwr opera?
Caiff Gareth sgwrs â'r tenor Gwyn Hughes Jones er mwyn darganfod beth sy'n ofynnol - yn gorfforol, yn feddyliol ac yn ysbrydol - i fod yn ganwr opera yn y flwyddyn 2020. Mewn cyfnod pan mae nifer o gantorion yn wynebu ynysu i ffwrdd o'r llwyfan, pa mor bwysig yw cadw'n weithgar a chynnal meddylfryd cadarnhaol? Pa ddulliau sydd ar gael i amddiffyn a chynnal llais yn ystod y cyfnod o dan gyfyngiadau?
Pennod Dau: A oes dyfodol i opera?
Oes gan opera 'broblem delwedd'? Mae Gareth yn edrych i'r dyfodol gydag Aidan Lang (Cyfarwyddwr Cyffredinol, Opera Cenedlaethol Cymru) a James Clutton (Cyfarwyddwr, Opera Holland Park). Hefyd yn ymuno â Gareth mae ffigyrau blaenllaw ym myd opera ieuenctid; Dan Perkin a Sian Cameron, er mwyn trafod y cymhlethdodau sy'n ymwneud â hyfforddi cenhedlaeth nesaf byd opera.
Pennod Tri: Sut mae ysgrifennu opera newydd? - Y Gerddoriaeth
Mae Gareth yn ymchwilio er mwyn darganfod sut mae ysgrifenwyr cyfoes yn creu opera o ddim. Cyfrwng yw opera sy'n adnabyddus am ailddyfeisio ac adfywio gweithiau parod, beth yw'r elfennau hanfodol sydd eu hangen er mwyn i opera newydd sbon gynrychioli'r byd cyfoes? Mae'r cyfansoddwr enwog Will Todd yn egluro ei broses ac yn perfformio detholiad o'r opera newydd Migrations.
Pennod Pedwar: Sut mae ysgrifennu opera newydd? - Y Geiriau
Mae Gareth yn cwrdd â'r ysgrifenwyr Shreya Sen-Handley, Edson Burton a Miles Chambers, er mwyn darganfod mwy am eu dulliau unigryw o ysgrifennu libreto am y tro cyntaf. Mae'r libretydd enwog Emma Jenkins, sy'n adnabyddus am weithiau er enghraifft In Parenthesis, hefyd yn ymuno â Gareth i drafod ei phroses ysgrifennu.
Pennod Pump: A ydy canu yn dda i chi?
Caiff Gareth sgwrs â chynhyrchydd Opera Cenedlaethol Cymru, Jennifer Hill, ynghylch ffurfio Côr Cysur Opera Cenedlaethol Cymru, prosiect sy'n uno 96 o blant oed cynradd a phobl sy'n byw gyda dementia wrth iddynt rannu profiad corawl. Mae Gareth hefyd yn eistedd gydag Celi Barberia o Sing.
Pennod Chwech: Beth sydd ei angen er mwyn bod yn ganwr opera?
Mae Gareth yn dychwelyd at y cwestiwn ‘Beth sydd ei angen er mwyn bod yn ganwr opera?‘, gan eistedd i lawr y tro hwn gyda’r Soprano Mary Elizabeth Williams. Gyda’i gilydd maent yn trafod gyrfa Mary Elizabeth hyd yma ac yn ystyried y dyfodol agos ar gyfer y byd opera yn ystod y cyfnod heriol ac ansicr hwn.
Pennod Saith: Pam bod angen llais beirniadol arnom?
Gareth yn gwahodd beirniaid blaenllaw y byd celfyddydol a gohebwyr am drafodaeth o amgylch y bwrdd ynglŷn â phwysigrwydd llais beirniadol mewn opera a pherfformiadau byw. Yn ymuno â Gareth mae Rupert Christiansen o The Telegraph; y newyddiadurwraig a chyfansoddwraig Steph Power; y newyddiadurwraig ranbarthol a blogiwr Diane Parkes a Nicola Hayward Thomas o BBC Radio 3.
Pennod Wyth: Pam mae angen arweinwyr arnom?
Gareth yn cwrdd ag Arweinydd Preswyl Benywaidd WNO, Tianyi Lu, i gael gwybod mwy am rôl arweinydd yn y byd opera. Yn ogystal, eistedda Gareth gyda'r arweinydd Prydeinig, Alexander Joel, ac David Adams o Gerddorfa WNO i drafod yr heriau maent yn eu hwynebu yn ystod perfformiad byw.
Pennod Naw: A yw opera yn berthnasol i gynulleidfaoedd ifanc?
Mae Gareth yn cyfweld cantorion a chefnogwyr opera ifanc er mwyn profi a yw opera yn berthnasol i'w cenhedlaeth hwy. Yn cynnwys y bariton John Ieuan Jones, myfyrwraig Coleg Brenhinol Cerddoriaeth a Drama Cymru Rosie Rowell a Max Catalano o Gymdeithas Operatig Prifysgol Caerdydd.
Pennod 10: Beth sydd ei angen i fod yn arweinydd?
Mae Gareth yn cwrdd â Chyfarwyddwr Cerddoriaeth Opera Cenedlaethol Cymru Tomáš Hanus i drafod ei yrfa hyd yma ac er mwyn darganfod beth sydd ei angen i weithio fel arweinydd ar raddfa ryngwladol.
Pennod 11: Pa mor bwysig yw haelioni ym myd opera?
Mae Gareth yn cwrdd â rhoddwyr a chodwyr arian er mwyn trafod sut mae haelioni yn sicrhau dyfodol a goroesiad byd opera. Gan gloddio tu hwnt i'r gweithiau a welir ar y llwyfan, mae Gareth yn archwilio'r gwahanol ffyrdd y gall cyfraniadau ariannol ddod â chelfyddyd opera i ysgolion, cartrefi gofal a hybiau cymunedol ledled y DU.
Pennod 12: Sut ydych chi'n cyfarwyddo opera?
Beth yw'r gwahaniaeth rhwng arwain drama ac arwain opera? Cyfarwyddwr opera, Daisy Evans, yn sgwrsio gyda Gareth am ei dull cyfarwyddo unigryw, sut dechreuodd arni yn y diwydiant a pham oedd fan cebab yn rhan hanfodol o'i chynhyrchiad diweddar o Don(er) Pasquale!
Cyfres dau
Taith yr Artist
Yn y rhifyn teiran arbennig hwn byddwn yn dilyn siwrnai artistiaid o’u cysylltiad cyntaf â cherddoriaeth glasurol hyd at eu perfformiad proffesiynol cyntaf. Bydd Natalya Romaniw, Tim Rhys-Evans a Tianyi Lu yn myfyrio ar eu siwrneiau cerddorol eu hunain, gan ystyried y cerrig milltir pwysig ar hyd llwybr yr artist ifanc, o’i ieuenctid a’i hyfforddiant galwedigaethol hyd at ei gamau cyntaf tuag at yrfa broffesiynol
Pennod Un: Camau cyntaf
Y soprano Natalya Romaniw a fydd yn trafod sut y gall profiadau cynnar o gerddoriaeth glasurol yn ystod ieuenctid ffurfio safbwynt yr artist. Gan fyfyrio ar ei phrofiadau ei hun o ganu gydag Opera Ieuenctid WNO, mae’n cael sgwrs gyda’i chyfaill a’i chyd-soprano Rhian Lois yn ystod cyfweliad bord gron, sydd hefyd yn cynnwys Abigail Kelly (Arweinydd Opera Ieuenctid WNO ym Mirmingham) a Ruth Rosales (Baswnydd ac Animeiddiwr). Mae Natayla hefyd yn cyfarfod â thri o bobl ifanc i gael gwybod mwy am yr hyn a’u denodd at ganu opera a hwythau mor ifanc.
Pennod Dau: Hyfforddiant
Bydd yr Arweinydd a’r Cyfarwyddwr Cerddoriaeth Tim Rhys-Evans yn trafod y broses o astudio mewn ysgolion cerddoriaeth a phrifysgolion, gan ddysgu mwy am fywyd beunyddiol artist sy’n hyfforddi. Bydd Tim yn cynnig ei gipolwg ei hun ar y broses hon, ac yntau’n Gyfarwyddwr Cerddoriaeth yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a bydd yn cyfarfod â Clair Rowden o Ysgol Gerddoriaeth Prifysgol Caerdydd, ynghyd â myfyrwyr a graddedigion, i drafod y gwahaniaethau rhwng addysg prifysgol ac addysg ysgolion cerddoriaeth.
Pennod Tri: Gyrfa broffesiynol
Bydd yr Arweinydd Tianyi Lu yn trafod y camau cyntaf y bydd graddedigion yn eu cymryd tuag at yrfa broffesiynol. Bydd y soprano Elin Pritchard, y bariton Oscar Dom Victor Catellino, Pennaeth Rhaglen Artistiaid Ifanc Jette Parker y Royal Opera House Elaine Kidd, a Phennaeth Rheolaeth Artistig WNO Kathryn Joyce, yn ymuno â Tianyi.
Bywyd Modern
Yn y bennod tair rhan newydd hon, byddwn yn archwilio sut all opera adlewyrchu bywyd modern. Bydd ein cyflwynwyr yn ymchwilio hanes opera, ac yn dysgu sut mae cynyrchiadau traddodiadol wedi cael eu haddasu a sut mae comisiynau newydd wedi'u creu i bortreadu themâu cyfoes ac adlewyrchu ein cymdeithas.
Pennod Un: Carmen
Bydd Gareth Jones yn siarad â Clair Rowden, darlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd, a byddant yn archwilio sut mae Carmen wedi esblygu dros y blynyddoedd ers ei pherfformiad cyntaf yn 1875. Bydd y cyfarwyddwr Oliver Lamford hefyd yn ymuno â Gareth i drafod ei gyfraniad mewn cynhyrchiad diweddar o Carmena gafodd ei ail-ddehongli ar gyfer oes ôl-‘fi hefyd’.
Pennod Dau: Trioleg Figaro
Bydd Gareth Jones yn cael cwmni'r adolygydd opera enwog, Rupert Christiansen, wrth iddo ymchwilio i hanes un o gymeriadau mwyaf diddorol opera, Figaro. Mae'r cyfarwyddwr David Pountney hefyd yn sgwrsio â Gareth ynglŷn â sut yr adeiladodd ar The Barber of Seville a The Marriage of Figaro i greu ei ddilyniant Figaro Gets a Divorce.
Pennod Tri: Opera Newydd
Bydd Gareth Jones yn archwilio comisiynau opera newydd, yn edrych yn ôl ar rai o weithiau gwreiddiol WNO, ac yn dysgu sut y gwnaethant bortreadu themâu cyfoes. Bydd yn cael cwmni cast a gweithwyr creadigol o gomisiwn diweddar WNO, A Song for the Future. Prosiect ar y cyd ag Oasis Caerdydd, a welodd cymuned o ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn creu ac yn perfformio opera mewn ymateb i'w profiadau personol.
WNO ar daith
Mae’r digrifwr a’r cefnogwr opera brwd Lorna Pritchard yn dychwelyd i gyflwyno’r rhaglen The O Word a’r gyfres Gymraeg Cipolwg
a bydd yn cael cwmni gwahanol westeion yn cynnwys y sopranos adnabyddus Alexia Voulgaridou ac Elin Pritchard, ynghyd ag amrywiaeth o arwyr tawel sy’n gweithio tu ôl i’r llen mewn adrannau goleuo, gwisgoedd a trechnegol.
Pennod Un
Mae Lorna yncodicwr y llenarfywydperfformiwrardaithwrthiddiarchwiliosutmaebywydardaithwedidatblygudros y blynyddoedd. Mae’rgwesteionyncynnwys y Soprano Alexia Voulgaridou, aelod o Gorws WNO Julian Boyce, a Patrick King, aelod o Gerddorfa WNO.
Pennod Dau
Mae Lorna’nmynd y tuôli’rllenniiddysgumwy am fywydauaelodauadrandechnegol WNO ardaith. Mae’rgwesteionyncynnwys Bethan Kelly a Stevie Haynes-Gould, CynorthwywyrGwisgoeddar Daith, y PrifYrrwr Daniel Sammons a’rPennaethGoleuo a Sain, Ian Jones.
Pennod Tri
Mae Lorna’ncwrdd ag Ian Douglas, rheolwrhirsefydlog WNO, wrthiddogwblhaueidymorteithioolafgyda’rcwmniarôlgweithiogyda WNO ersdrosddeugainmlynedd.
Cyfres tri
Bloc wrth Floc - Cherry Town, Moscow
Mae’r cyflwynydd Michael Graham-Court yn mynd y tu ôl i lenni cynhyrchiad newydd sbon Opera Ieuenctid WNO o Cherry Town, Moscow. Mewn trafodaeth agored gyda’r cyfarwyddwr Daisy Evans, yr arweinydd Alice Farnham a Chyfarwyddwr Cyffredinol WNO Aidan Lang, mae Michael yn archwilio’r fersiwn hon o Cheryomushki gan Shostakovich sydd wedi’i hail-ddychmygu a’i hail-enwi. Mae’r cast o gantorion ifanc hefyd yn rhoi benthyg eu lleisiau i’r bennod hon, gan rannu eu profiadau o ymarfer ar gyfer cynhyrchiad raddfa fawr a fydd yn cael ei berfformio ar lwyfan y Donald Gordon o fewn Canolfan Mileniwm Cymru.
Blaze of Glory! - Pennod Un
Mae Michael Graham-Court yn archwilio sut all canu gyfoethogi cymunedau wrth iddo ddysgu am draddodiad Corau Meibion Cymru a ysbrydolodd gynhyrchiad newydd WNO, Blaze of Glory!. Mae Michael yn cael cwmni cyfarwyddwr ac arweinydd Blaze of Glory!,Caroline Clegg a Stephen Higgins.
Pennod Dau - Blaze of Glory! - Nafissatou Batu Daramy and Mark Llewellyn Evans
Mae’r cantorion, Nafissatou Batu Daramy a Mark Llewellyn Evans, yn trafod eu rolau yn Blaze of Glory! ac yn cynnig mewnwelediad pellach i werth canu cymunedol.
Blaze of Glory! - Pennod dau: Meurig Price, Tony Kear and Geraint York
Mae Michael yn cyfweld Meurig Price, Tony Kear a Geraint York, aelodau o gorau Meibion Dowlais and Blaenavon.