Cipolwg
Cyfres un
Ymunwch â'r comedïwr a'r newyddiadurwr Lorna Prichard, sydd wedi bod â diddordeb gydol oes mewn opera ers iddi weld ei hopera gyntaf yn chwech oed yn Rhyl, wrth iddi gymryd ‘cipolwg’ ar y byd opera. Caiff Lorna sgwrs â chantorion, arweinwyr, arbenigwyr ac aelodau'r gynulleidfa wrth archwilio byd rhyfedd a gwych opera a cherddoriaeth glasurol.
Pennod Un: Campwaith yr Eidal
Yr wythnos hon, caiff yr arweinydd byd enwog Carlo Rizzi sgwrs â Lorna ynghylch poblogrwydd parhaus Giuseppe Verdi. Dadansoddi opera Verdi sydd wedi'i hailddarganfod mae Lorna Les vêpres siciliennes yn ystod diodydd egwyl yr wythnos hon. A down i wybod beth sy'n gwneud Verdi yn un o gampweithiau gorau'r byd opera drwy gwestiynau am opera gan Elin Jones, Dramaturg WNO.
Pennod Dau: Y Fenyw Arall
Yn awyddus i wybod mwy am rôl merched ym myd opera, caiff Lorna sgwrs â'r Soprano Elin Pritchard. Gyda'i gilydd maen nhw'n trafod y cymeriadau benywaidd mwyaf dylanwadol ym myd opera. A pha le gwell ar gyfer diodydd egwyl yr wythnos hon na chynhyrchiad newydd Opera Cenedlaethol Cymru o Carmen, sy'n cynnwys ymddangosiad cyntaf Elin fel Micaëla. Yn nes ymlaen, bydd Dramaturg WNO, Ellin Jones, yn cael aduniad â Lorna ar gyfer ychydig o gwestiynau ynghylch Carmen.
Pennod Tri: Mozart yn y Jyngl
Mae Lorna yn cwrdd â'r bariton John Ieuan Jones ac yn ailddarganfod ei hangerdd tuag at Mozart. Rydym wedyn yn ymuno â hi ar gyfer diodydd egwyl yn ystod The Marriage of Figaro. Beth sy'n sicrhau bod y ffefryn Mozart hwn yn sefyll ei dir? Ac yn ddiweddarach, dewch i wybod popeth sydd angen ei wybod am y cyfansoddwr plant athrylithgar gydag Elin. A ysgrifennodd Mozart yr agorawd i Don Giovanni ar ddiwrnod y perfformiad mewn gwirionedd?
Pennod Pedwar: Mae cerddoriaeth gyda chi drwy'r amser
Mae Lorna yn cwrdd â Sian Meinir o Gorws WNO ac yn trafod ei chysylltiad â rhai o brosiectau ieuenctid a chymuned cyffrous Opera Cenedlaethol Cymru. Daw diodydd egwyl yr wythnos hon â thro yn y gynffon, wrth i Lorna ryngweithio ag aelodau'r gynulleidfa yn dilyn cyngerdd cymunedol Opera Cenedlaethol Cymru yn y Galeri, Caernarfon. Ac yntau ar fin troi'n 250, Beethoven yw testun cwestiynau opera'r wythnos hon.
Pennod Pump: Cav&Pag Rhan 1
Mae Lorna yn sgwrsio gyda'r tenor clodwiw Gwyn Hughes Jones am ei yrfa llewyrchus. Yn ymuno gyda ni am ddiod egwyl rhithiol mae gwestai arbennig iawn, Mam Lorna! Maent yn gwylio a thrafod perfformiad o Cavalleria Rusticana, sef ffocws cwestiynau'r wythnos yma gan ein Dramaturg, Elin Jones.
Pennod Chwech: Cav&Pag Rhan 2
Yn ystod ail ran rhifyn arbennig Cav&Pag bydd Lorna yn gorffen ei sgwrs gyda Gwyn Hughes Jones ac yn trafod Pagliacci dros ddiod.
Pennod Saith: Beth am Strauss?
Lorna yn cwrdd â'r Soprano Fflur Wyn ac yn archwilio ei chysylltiadau â gwaith Richard Strauss. Yn ddiweddarach, âi Lorna a'i Mam am ddiod mewn egwyl rithwir yn ystod perfformiad wedi'i recordio o Der Rosenkavalier. Ac mae Elin yn ôl gyda chwestiynau yn archwilio repertoire amrywiol Strauss.
Pennod Wyth: Gwleidyddiaeth mewn Opera
Lorna sy'n trafod rôl gwleidyddiaeth mewn opera a cherddoriaeth glasurol. Pwnc diodydd egwyl a chwestiynau yr wythnos hon yw campwaith Verdi, Rigoletto.
Pennod Naw: A Vixen's Tale
Mae Lorna yn cwrdd â'r soprano Meriel Andrew i drafod uchafbwyntiau ei gyrfa a darganfod sut brofiad oedd rhannu'r llwyfan gyda'i merch Martha mewn perfformiad diweddar o The Cunning Little Vixen.
Pennod 10: Madam Butterfly
Mae Lorna yn cwrdd â'r cyfarwyddwr Angharad Lee i drafod ei gwaith ar gynhyrchiad diweddar o Madam Butterfly. Mae'r clasur parhaus gan Puccini hefyd yn ganolbwynt diodydd egwyl a chwestiynau'r wythnos hon gyda Dramaturg WNO Elin Jones.
Cyfres dau
Taith yr Artist
Elin Jones, Dramaturg WNO, a fydd yn cyflwyno’r rhifyn teiran arbennig hwn, lle bydd yn trafod siwrnai artistiaid o’u profiadau cyntaf o gerddoriaeth glasurol hyd at eu perfformiad proffesiynol cyntaf. Bydd y comedïwr a’r newyddiadurwr Lorna Prichard yn ymuno ag Elin i gyfweld perfformwyr, myfyrwyr a chantorion ifanc er mwyn cael dysgu mwy am bob cam o’u taith tuag at yrfa broffesiynol.
Pennod Un: Camau cyntaf
Bydd Elin Jones, Dramaturg WNO, yn trafod y cyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc ymhél â pherfformio yn gynnar yn eu hoes. Bydd Lorna Prichard yn siarad â Jenny Pearson a Morgana Warren-Jones (Opera Ieuenctid WNO Gogledd Cymru) i gael trafodaeth ehangach ynglŷn â rôl grwpiau ieuenctid wrth ddatblygu cantorion ifanc. Hefyd, bydd Lorna yn siarad â pherson ifanc i gael gwybod pam mae perfformio’n bwysig iddo.
Pennod Dau: Hyfforddiant
Bydd Elin Jones yn ystyried y broses o hyfforddi artistiaid ifanc ar lefel ysgol gerddoriaeth. Bydd Lorna Prichard yn cyfarfod â Tim Rhys-Evans, a gellir ei glywed yn sôn am ei rôl fel addysgwr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a’i brofiadau blaenorol yn rhedeg grwpiau ieuenctid fel Only Boys Aloud. Hefyd, bydd Lorna yn cael sgwrs â’r tenor Huw Ynyr a’r myfyriwr ysgol gerddoriaeth Canna Roberts.
Pennod Tri: Gyrfa broffesiynol
Bydd Elin Jones yn ystyried y cam nesaf yn siwrnai artistiaid, gan ystyried beth sydd o’u blaen ar ôl iddynt raddio. Bydd Lorna Prichard yn siarad â’r soprano Alys Roberts a’r tenor Elgan Llŷr Thomas, a gellir clywed y ddau yn trafod cyfleoedd perfformio i raddedigion a sut beth yw bywyd wrth gychwyn gweithio fel perfformiwr proffesiynol llawn amser.
Bywyd Modern
Yn y bennod tair rhan newydd hon, byddwn yn archwilio sut all opera adlewyrchu bywyd modern. Bydd ein cyflwynwyr yn ymchwilio hanes opera, ac yn dysgu sut mae cynyrchiadau traddodiadol wedi cael eu haddasu a sut mae comisiynau newydd wedi'u creu i bortreadu themâu cyfoes ac adlewyrchu ein cymdeithas.
Pennod Un: Opera yn y Byd Modern gyda Robyn Lyn Evans
Robyn Lyn Evans sydd yn ymuno ag Elin Jones i archwilio opera yn y byd modern. Bydd Robyn yn trafod manteision addasu operâu traddodiadol i ddehongli bywyd cyfoes ar y llwyfan gyda Sion Goronwy a Paul Carey-Jones, yn ogystal â Bridget Wallbank, Rheolwr Cynhyrchu Opera Canolbarth Cymru.
Pennod Dau & Tri: Opera yn y Byd Modern gydag Iwan Teifion Davies
Bydd Elin Jones ac Iwan Teifion Davies yn parhau i archwilio'r lle sydd o fewn opera newydd i adlewyrchu digwyddiadau cyfoes, gan ganolbwyntio'n benodol ar operâu a berfformir drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd Claire Victoria Roberts, Manon Llwyd, Guto Puw a Gareth Glyn yn ymuno ag Iwan.
Pennod Pedwar: Opera yn y Byd Modern gyda Sian Meinir
Bydd Elin Jones yn cael cwmni Sian Meinir a fydd yn siarad â Fflur Wyn a Menna Elfyn am gomisiynau opera newydd, a pha mor angenrheidiol yw adlewyrchu amseroedd cyfoes ynddynt.
WNO ar daith
a bydd yn cael cwmni gwahanol westeion yn cynnwys y sopranos adnabyddus Alexia Voulgaridou ac Elin Pritchard, ynghyd ag amrywiaeth o arwyr tawel sy’n gweithio tu ôl i’r llen mewn adrannau goleuo, gwisgoedd a trachnegol.
Pennod Un
Mae Lorna’ncwrdd â Meriel Andrew, un o aelodauCorws WNO, idrafodeiphrofiadaugyda’rcwmnia’reffaith gall teithioeigaelarfywydpersonol a phroffesiynolcanwr.
Pennod Dau
Caiff Lorna gwmni’rcerddor, ac aelodnewyddCerddorfa WNO, Llinos Owen, wrthiddiddechrauarei thaith gyntaf un gyda’rcwmni.
Pennod Tri
Mae Lorna’ncaelsgwrs â Elin Pritchard idrafod hi brofiadau o deithioledled y DU ac ynrhyngwladol.
Cyfres tri
Yn y gyfres newydd hon o Cipolwg, mae Lorna Prichard yn archwilio gwerth canu cymunedol. Mae hi’n dysgu mwy am draddodiad Corau Meibion Cymru ac yn archwilio sut mae profiadau cerddorol a rennir wedi effeithio ar yrfaoedd rhai o gantorion opera proffesiynol WNO, sy’n perfformio yn Blaze of Glory! ar hyn o bryd.
Pennod Un
Mae Lorna’ncaelsgwrsgydag Artist Cyswllt WNO, Dafydd Allen.
Pennod Dau - Blaze of Glory!
Lorna’n sgwrsio â Siân Bratch am ei rôl fel Cyfarwyddwr Cerdd Côr Meibion Maelgwn.
Pennod Tri - Blaze of Glory!
Ifan Hughes, Rheolwr Llwyfan Côr Meibion Maelgwn yn ymuno â Lorna i drafod ei brofiadau o weithio ar Blaze of Glory!