Newyddion

10 peth i’w wybod os ydych yn newydd i fyd opera...

5 Mawrth 2021

... Neu’r ‘gwir am opera’ - yma yn Opera Cenedlaethol Cymru, rydym eisiau chwalu rhai o’r mythau a chamsyniadau y gallech fod wedi eu clywed. Darllenwch ymlaen i ddeall ein ffurf gelfyddydol:

1. Yn union fel ffilmiau, mae operâu yn dod mewn gwahanol arddulliau, ieithoedd a hydoedd, gyda gwahanol bynciau a phlotiau (mae cariad, chwerthin a cholled yn themâu cyson)

2. Mae’r straeon yn debygol o fod yn gyfarwydd - mae nifer wedi eu seilio ar fythau, chwedlau, cerddi, dramâu, nofelau, hyd yn oed digwyddiadau hanesyddol - ee chwedl Tristan ac Esyllt; dramâu Shakespeare; hanes Peter Pan; profiadau’r Rhyfel Byd Cyntaf; mae’r rhestr yn hirfaith. Mae’r gerddoriaeth hefyd yn adnabyddus mewn hysbysebion, teledu a ffilmiau

3. Er ei fod yn un o’r ffurfiau celfyddydol hynaf (yn gwreiddio o ddechrau’r 17eg ganrif, ac mae un o’r operâu cynharaf, Orfeo Monteverdi, 1607, yn dal i gael ei pherfformio heddiw), mae operâu mwy newydd hefyd yn hynod boblogaidd, yn parhau i ddenu pobl o bob cefndir i ysgrifennu, cymryd rhan neu fwynhau

4. Mae nifer o enwau mawr o fyd Hollywood, y byd ffasiwn a’r celfyddydau wedi cymryd rhan mewn opera - meddyliwch am Madam Butterfly Anthony Minghella ar gyfer ENO a Metropolitan Opera Efrog Newydd. Mae Viktor a Rolf a Christian Lacroix wedi dylunio gwisgoedd ar gyfer cynyrchiadau opera. Mae awdur Where the Wild Things Are, Maurice Sendak, wedi dylunio setiau - gan gynnwys fersiwn opera o’i lyfr mwyaf enwog. Mae David Hockney, Marc Chagall a Salvador Dali hefyd wedi dylunio setiau. Mae hyd yn oed Kanye West wedi ysgrifennu a chyflwyno ei opera ei hun un 2019

5. Gall dyluniadau cynhyrchiad fod yn gwbl syfrdanol, yn hardd, yn odidog, yn annisgrifiadwy a hyd yn oed yn hollol hurt. Maent yn haeddiannol yn deilwng o’u harddangosfeydd: o ddylunwyr fel John Mcfarlane (a oedd wedi gweithio gydag WNO ar gynyrchiadau gan gynnwys The Queen of Spades a Hansel & Gretel) yn cael sioeau unigol mewn oriau celf; i’r arddangosfeydd mwy ar grefft dylunio set mewn amgueddfeydd cenedlaethol

6. Mae cefnogwyr enwog o opera yn cynnwys pobl amrywiol fel Freddie Mercury, Stephen Fry, Patti Smith, Bradley Walsh, Jessica Chastain, Novak Djokovic a Rheolwr Crystal Palace, Roy Hodgson

7. Y dyddiau hyn, gall operâu fod ar ffurfiau amrywiol, ac maent yn cael eu cyflwyno mewn gwahanol ffurfiau (pan mae'r pandemig yn caniatáu), o gynyrchiadau cryno mewn theatrau bach i fyny grisiau mewn tafarndai, i fersiynau digidol wedi eu sgrinio yn eich sinema leol, i leoliadau mewn trefi a dinasoedd ledled y wlad, yn croesawu cwmnïau teithio fel WNO, ac wrth gwrs, mae Gwyliau awyr agored mawreddog yn yr haf

8. I wneud deall opera yn hawdd, mae WNO yn cynhyrchu rhaglenni sy’n cynnwys gwybodaeth berthnasol ynghyd â bywgraffiadau’r artistiaid a chrynodeb o’r plot. Rydym hefyd yn cynnal trafodaethau cyn y perfformiad i egluro mwy am gefndir yr opera rydych ar fin ei gwylio

9. Ar ben hynny, rydym yn cynnig uwchdeitlau Saesneg (ac yn Gymraeg yn ein theatrau Cymraeg). Mae’r rhain yn cynnig cyfieithiad uwch y llwyfan o’r hyn sy’n cael ei ganu - meddyliwch am fersiwn fyw o’r isdeitlau sydd ar gael ar eich teledu

10. Byddwch yn gadael gyda’r teimlad eich bod wedi cael eich cludo i fan arall; y math o deimlad lle mae eich meddwl yn chwyrlio o gwmpas yn cofio’r gwahanol rannau a sut maent yn berthnasol i’w gilydd. Nid ydych yn medru peidio â meddwl am yr hyn rydych wedi ei wneud, waeth pa fath o opera a welsoch: hapus, doniol, trasig, byddwch wedi cael eich cludo i’r byd hwnnw. Beth sydd yn eich atal rhag dod eto?