Newyddion

Newid ar Droed

5 Chwefror 2021

Drwy gydol 2020 rydym wedi datblygu mwy o ymwybyddiaeth o anghydraddoldeb nag erioed o'r blaen, yn ogystal â chael y cyfle i feddwl am 'sut y gallwn wneud pethau yn well'. Mae prosiect Creu Newid, Opera Cenedlaethol Cymru yn archwilio sawl thema ynghylch amrywiaeth ac yn holi nifer o gwestiynau, gan gynnwys y rheiny am gynrychiolaeth pobl groenddu yn y Celfyddydau. Mae awdur Creu Newid a MigrationsMiles Chambers yn archwilio'r pwnc i ni.

Mae Othello William Shakespeare yn dangos empathi proffwydol at ddynameg rynghiliol yr oes fodern. Rwy'n credu ei bod yn eironig mai actorion gwyn oedd yn chwarae'r rôl hon am flynyddoedd lawer, weithiau gydag wyneb du. Mae hil a lliw croen Othello yn rhan mor allweddol o'r stori â'r agweddau eraill ar ei hunaniaeth ac mae'r rhesymau pam nad oedd actorion Croenddu yn cael eu dewis ar gyfer y rôl hon yn arwydd o gyflwr theatr, yn adlewyrchu hiliaeth ar lwyfan a'r hiliaeth reddfol a oedd, ac sy'n parhau i fod, yn bresennol yn ein cymdeithas a'r Celfyddydau.

Os oeddent yn bodoli o gwbl, roedd actorion Croenddu yn cael eu hystyried yn llai galluog, ac ni roddwyd cyfleoedd iddynt. Ychydig iawn o ddramâu gyda rolau uchelgeisiol i actorion croenddu oedd yn cael eu hysgrifennu, ac yn y rheiny lle'r oedd cymeriadau croenddu, cânt eu chwarae yn aml gan bobl wyn yn hytrach.

Mae'r byd opera wedi cael agwedd debyg, er enghraifft yn Othello Verdi, cafodd Othello ei chwarae gan Johan Botha (2012) a Placido Domingo (1987) yn y Metropolitan Opera a Vladimir Atlanyov yn Alexandria (1996). Noder dim ond un o'r dynion hyn oedd yn groenddu. Mae opera wedi cael perthynas hirfaith ag ecsotigaeth ethnig a oedd yn cynnwys 'wyneb du' ac 'wyneb melyn' (i gyfeirio at y stereoteip Asiaidd). Mae nifer o operâu mwy difrifol - Madam Butterfly a Turandot hefyd yn dod i'r meddwl am yr union yr un peth. Câi'r theatr ei dominyddu a'i mynychu gan bobl wyn, ddosbarth canol. Nhw oedd yn penderfynu ar y straeon yn cael eu hadrodd a phwy fyddai yn eu dweud. Mae celfyddyd yn darlunio syniadaeth y dosbarth llywodraethol - syniadaeth a ddaeth gyda seicoleg wedi'i thrwytho mewn hiliaeth.

O fy mhrofiad personol, cefais fy nghysylltiadau cyntaf â'r theatr ac opera drwy fy mam. Drwyddi hi y dysgais am Shakespeare a'r operâu Porgy and Bess, Carmen Jones. Ni fynychais y theatr tan oeddwn yn fyfyriwr - roeddem yn byw yn Trowbridge, Wiltshire a'r theatr agosaf oedd Theatre Royal Bath. Roedd opera yn cael ei gweld fel moeth yr oeddwn yn ei gysylltu â'r dosbarth canol uwch, fel teulu croenddu gyda 5 o frodyr a chwiorydd i riant sengl a wynebai heriau economaidd ar stad gyngor roeddem yn sicr yn perthyn i'r dosbarth gweithiol. Fe wnes, yn y pen draw, fynychu Theatre Royal yng Nghaerfaddon yn 2009, lle gwelais Lenny Henry yn chwarae Othello, perfformiad gwych!

Rwy'n gweld tystiolaeth fwy clir heddiw o straeon a pherfformiadau croenddu a ddaeth o ganolfannau cymunedol, neuaddau eglwys a chlybiau'r 60au, 70au, 80au a 90au yn cael mwy o le yn y theatr brif ffrwd. Rwyf wedi mynychu mwy o ddramâu a chynyrchiadau croenddu yn Bristol Old Vic yn y 4 blynedd diwethaf nac yn unrhyw theatr arall dros yr 20 mlynedd diwethaf, ac mae'r theatr wedi anfarwoli fy ngherdd, Bristol Bristol yn y giatiau metel ar eu wal allanol. Mae opera newydd WNO Migrations, yr wyf yn un o'i hysgrifenwyr, yn ymgais i gynnwys cynulleidfa, tîm creadigol a chast mwy amrywiol mewn opera. Mae gan theatr yr Young Vic yn Llundain ei chyfarwyddwr artistig croenddu cyntaf hefyd, Kwame Kwei-Armah.

Rwy'n credu bod fy mherthynas â theatr brif ffrwd yn fwy cyflawn a gwell o lawer. Mae pobl groenddu wedi cael cariad at theatr ers tro; mynediad at sefydliadau prif ffrwd sefydledig oedd ein man gwan. Mae gwelliannau wedi bod ond mae angen gwneud mwy fel bod pawb ohonom yn gweld y theatr ac opera fel lle y gallwn fynd i glywed, gweld ac adrodd ein straeon:

Fel celf aruchel, gall opera wneud llawer i frwydr pobl groenddu. Mae angen i ni ei datgysylltu oddi wrth ei gorffennol hiliol a chreu opera sy'n adlewyrchu'r gymdeithas amlddiwylliannol yr ydym yn byw ynddi, nid yn unig i roi terfyn ar yr anghydraddoldebau amlycaf sy'n gysylltiedig â'r diwylliant croenddu, ond i gynnal dyfodol ar gyfer opera.