Rydym yn byw mewn cyfnod eithriadol. Mae argyfwng rhyngwladol wedi amlygu'r anghydraddoldebau a'r anghyfiawnderau yn ein cymdeithas yn fwy nag erioed. Mae twf mewn ansicrwydd economaidd, cymdeithasol a chorfforol wedi newid y tir oddi tanom. Fel sefydliad celfyddydol cenedlaethol sy'n ymateb i her y normal newydd ond sy'n dal i fethu â chyflawni gwaith byw mewn theatrau, mae Opera Cenedlaethol Cymru yn teimlo'n fwy brwd nag erioed bod dod ag artistiaid a syniadau at ei gilydd drwy ryddid mynegiant, yn ein helpu i wneud synnwyr o fyd ansefydlog. Mae 'Creu Newid' yn sgwrs artistig o'r math hwn, lle mae awduron, cyfansoddwyr, cantorion a cherddorion, yn dathlu rôl celf i ail-ddychmygu dyfodol o newid cymdeithasol parhaol.