Mae ein cynhyrchiad newydd o Don Pasquale yn agor yng Nghasnewydd heno, ac mae'r Cyfarwyddwr Daisy Evans wedi ail-ddychmygu'r darn ar gyfer y 21 ganrif a gosod y digwyddiadau mewn fan kebab yn Ne Cymru. Mae Pasquale, perchennog y fan sy'n hanu o wlad Groeg, wedi bod mewn busnes ers yr 1970au, yn gweini bwyd yn hwyr yn y nos i'r bobl leol gan gynnwys Malatesta a'i fand teithiol. Mae ei nai Ernesto, a'i gariad Norina, yn perthyn i genhedlaeth hollol wahanol, ac yn dyheu am enwogrwydd a busnes cystadleuol yn gwerthu bwyd figan.
Trwy gydol yr ymarferion mae meddwl am kebabs, byrgyrs, chips a reis wedi bod yn tynnu dŵr o'n dannedd ac wedi gwneud i ni feddwl am yr holl gyfeiriadau eraill at fwyd mewn opera. Wrth edrych yn ôl trwy archifau WNO, rydym wedi ail-ddarganfod danteithion bendigedig o dymhorau'r gorffennol.
Efallai bod La bohème gan Puccini yn canolbwyntio ar grŵp o artistiaid tlawd sy'n cael trafferth cadw dau ben llinyn ynghyd ym Mharis, ond mae yna olygfa fywiog yn Act II lle mae'r criw yng Nghaffi Momus yn gwledda ar gig carw, twrci, cimwch a digonedd o win.
Mae nifer o operâu yn cynnwys golygfa o wledda, un enghraifft hynod ddramatig yw Macbeth gan Verdi lle mae Macbeth sydd newydd gael ei goroni yn gweld ysbryd Banquo am y tro cyntaf, sy'n arwain at ei wallgofrwydd. A dweud y gwir, mae Verdi, yn enwog am ei ddefnydd o fwyd fel dyfais blot mewn opera - pwnc a gafodd ei archwilio'n fanwl gan Pierpaolo Polzonetti yn ei draethawd ‘Feasting and Fasting in Verdi’s Operas’. Mae'n tynnu sylw at 4 cyfraith y cyfansoddwr: ‘A meal is never sad’, ‘Hunger is never happy’, ‘A shared meal or drink is a socially cohesive event’ a ‘The presence of food or drink precludes immediate catastrophe (unless poison is involved)’.
Yn yr opera deuluol, Hansel & Gretel, mae'r tŷ bara sinsir, y melysion a'r cacennau yn temtio’r ddau arwr i fentro i mewn i'r goedwig dywyll. Yn Sweeney Todd, mae yna dro ychydig yn dywyllach gyda nifer o gwsmeriaid anffodus y barbwr yn dod yn un o gynhwysion pasteiod blasus Mrs Lovett - 'Peis gorau yn Llundain'.
Ond, gan mai un o operâu Donizetti sydd dan sylw yma, fe wnawn ni roi'r gair olaf iddo ef. Yn un o'i operâu eraill, The Elixir of Love, mae act II yn agor gyda gwledd sy'n cael ei chynnal cyn priodas Adina a Belcore. Mae'r teithiwr, Dulcamara, gwerthwr y ddiod y cyfeirir ati yn y teitl, yn siarad dros nifer ohonom pan ddywed: ‘Weddings are all very nice. But what I like best about them is the pleasant sight of the banquet.’
Mae Don Pasquale ar daith tan 13 Gorffennaf - mae'r saws chilli yn ddewisol!