Newyddion

Canllaw i Carmen

12 Awst 2019

‘Love is a rebellious bird that nobody can tame.’ Dewch i gwrdd â'r fenyw fwyaf tanbaid yn hanes opera - Carmen - ysbryd rhydd sy'n gwybod beth mae hi ei eisiau a ddim yn ofn mynd i'w gael. Ond beth sy'n digwydd pan fydd y sylw y mae'n ei ddenu yn troi'n obsesiynol? Cewch weld yn y cynhyrchiad gwefreiddiol hwn o Carmen gan Bizet.

Yn seiliedig ar stori gan yr awdur Ffrengig Prosper Merimée, perfformiwyd Carmen am y tro gyntaf gan Opera-Comique ym Mharis ym 1875. Dros ganrif yn ddiweddarach, rydym yn paratoi i berfformio cynhyrchiad ffyrnig newydd.

Mae'r cyfarwyddwr clodwiw Jo Davies (Kiss Me, Kate) yn rhoi persbectif gwahanol ar yr opera adnabyddus hon. Tra'n aros yn ffyddlon i'r stori draddodiadol ym mhob ystyr, mae'r cynhyrchiad hwn yn ymchwilio i ddyheadau Carmen. Wedi’i osod yng Nghanolbarth America yn y 1970au, rydym yn archwilio ysbryd ac egni gwyllt Carmen, ond hefyd ei sefyllfa gymdeithasol-wleidyddol ac economaidd. Heb arian, addysg na statws cymdeithasol, bu’n rhaid iddi ddysgu sut i ddefnyddio ei phŵer - mae hi’n oroeswr ac yn achubwr cyfle ac yn defnyddio ei swyn a’i ffraethineb i wella ei sefyllfa economaidd, heb falio dim. 


Beth yw'r stori? (yn cynnwys spoilers)

Mae'r opera yn adrodd hanes cwymp Don José, milwr naïf sy'n cael ei hudo gan swyn y Carmen danbaid. Mae José yn troi ei gefn ar gariad ers ei blentyndod, Micaëla, ac yn gadael ei ddyletswyddau milwrol i ymuno â chriw o smyglwyr. Wrth i’r stori ddatblygu, mae perthynas Carmen â José yn chwalu - mae e’n genfigennus, yn feddiannol ac yn colli cariad Carmen i’r ymladdwr teirw hudolus Escamillo. Er cymaint yr ydym yn cydymdeimlo â’i ‘dioddefwr’, Don José, does dim gwrthsefyll hudoliaeth Carmen. Yn llawn angerdd, mae'r stori'n datblygu i'w diwedd anochel trasig, wedi'i megino gan hiraeth dwys am farwolaeth.


Pam dod i'w weld?

Mae gan Carmen holl gynhwysion opera wych: agosatrwydd, ysblander ac angerdd ac mae'r gerddoriaeth yn swynol ac yn hygyrch. Mae sgôr Bizet yn gyfoethog o ensembles a chorawdau - yn fwy heriol a chymhleth nag yr oedd ei berfformwyr a’i gynulleidfa wedi arfer â hi. Yn adnabyddus fel y sioe gerdd wreiddiol, mae ei sgôr gogoneddus yn cynnwys llu o alawon rhyfeddol, gan gynnwys Habanera a Seguidilla synhwyraidd Carmen; Flower Aria dyner Don José a Chân Toreador cynhyrfus Escamillo. Mae yna ymddiddan angerddol hefyd, yn fwy amlwg na dim yw'r gwrthdaro dwys, terfynol rhwng Carmen a Don José.  Y noson berffaith yn yr opera.