Newyddion

A Guide to Death in Venice

2 Mawrth 2024

Pleser i Opera Cenedlaethol Cymru yw cyflwyno’r cynhyrchiad cyntaf yng Nghymru o opera olaf anhygoel Benjamin Britten, sef Death in Venice, a fydd yn mynd ar daith ar hyd Cymru a Lloegr yn ystod yr wythnosau nesaf. Olivia Fuchs fydd y cyfarwyddwr, a bydd yn dychwelyd i’r Cwmni ar ôl ei chynyrchiadau uchel eu bri o The Makropulos Affair a Der Rosenkavalier. Yn ddi-os, bydd yr opera’n ychwanegiad gwych a mewnsyllgar at Dymor y Gwanwyn 2024 – felly dyma arweiniad i’r cynhyrchiad newydd sbon.

Perfformiwyd Death in Venice am y tro cyntaf ar 16 Mehefin 1973 yn Snape Maltings, Suffolk fel rhan o Ŵyl Aldeburgh a sefydlwyd gan y cyfansoddwr Benjamin Britten, a’i bartner, Peter Pears, ac Eric Crozier yn 1948. Mae’r opera’n dilyn hanes Gustav von Aschenbach, awdur llwyddiannus mewn oed, sy’n teithio i Fenis i geisio dod o hyd i awen. Yn ei westy, mae’n cyfarfod â Tadzio, uchelwr ifanc o Wlad Pwyl, ac yn syth bin mae Aschenbach yn gwirioni arno. O hyn ymlaen, gwelir Aschenbach yn ymlafnio â’i enaid – nid yw’n meiddio ildio i’w wir ddymuniadau ac mae’n gwneud ei orau i osgoi angau yn y ddinas sy’n ferw o golera.

Wrth gwrs, mae’r opera Death in Venice wedi’i lleoli yn Fenis, sef dinas doreithiog ei chamlesi yng ngogledd yr Eidal, a chanddi hanes yn llawn cerddoriaeth a chelfyddyd. Lleolir yr opera yn y 1910au cynnar, cyn y Rhyfel Byd Cyntaf, o gwmpas yr amser y cyhoeddwyd y nofel fer wreiddiol Death in Venice gan Thomas Mann yn 1912. Mae cynhyrchiad newydd WNO yn dod â dirywiad y cyfnod yn fyw trwy gyfrwng set syml a grëwyd gan y dylunydd Nicola Turner a gwisgoedd traddodiadol, hardd.


Mae cerddoriaeth Death in Venice yn eithriadol o arbennig. Yn wir, mae rhai o’r farn bod Britten wedi cyrraedd ei benllanw cerddorol yn yr opera hon. Dan arweiniad Leo Hussain, bydd Cerddorfa a Chorws WNO yn creu’r awyrgylch rhyfeddol a thanbaid a gaiff ei gyfleu mor wych yng ngwaith operatig olaf Britten. Mae’r sgôr gerddorol yn nodedig am y defnydd a wna o elfennau o Ddwyrain Asia sy’n cyfleu Tadzio a’i deulu, y saith cymeriad a gaiff eu portreadu gan un bariton, a rôl anodd, unwaith-mewn-oes Aschenbach ar gyfer tenor.

Mae cynhyrchiad WNO yn cynnwys cast anhygoel. Bydd Mark Le Brocq yn ymddangos am y tro cyntaf fel Gustav von Aschenbach; bydd Roderick Williams y bariton yn portreadu’r cymeriadau lu sy’n gwatwar Aschenbach yn ei hunllefau; ac Alexander Chance fydd Llais Apollo, sef rôl yr aeth ei dad i’r afael â hi hefyd. Bydd Antony César yn ymuno â nhw ar y llwyfan i bortreadu Tadzio, a bydd perfformwyr syrcas o No FitState, ynghyd â Diana Salles, Vilhelmiina Sinervo, Selma Hellmann a Riccardo Saggese, yn portreadu teulu a chyfeilion Tadzio. Gan mai rolau dieiriau sydd gan Tadzio a’i gymdeithion, byddant yn mentro i’r awyr ac yn gwneud campau trwy ddefnyddio rhimynnau sidan, strapiau a rhaffau.


Os ydym wedi llwyddo i ennyn eich diddordeb, peidiwch â cholli cynhyrchiad newydd sbon danlli WNO o Death in Venice a fydd yn agor yng Nghanolfan Mileniwm Cymru Caerdydd ar 7 Mawrth cyn mynd ar daith i Landudno, Southampton, Rhydychen, Bryste a Birmingham tan 11 Mai 2024.