Newyddion

A homecoming for Tomáš

30 Tachwedd 2018

Gan fod ein Tymor Hydref wedi dod i ben, rydym am ei chychwyn hi am y Weriniaeth Tsiec - i gyflwyno ein cynhyrchiad o  From the House of the Dead yng ngŵyl Janáček yn Brno. Rydym yn mynd â’r cynhyrchiad llawn drosodd yno, gan gynnwys bwncath byw a’r un cast a gymerodd ran yn ein Tymor Rwsia 17 y llynedd (bron - ceir newid o ran cast ar gyfer y Small Convict, ac mae dau o'r rhannau a chwaraeir gan ein Corws wedi newid hefyd). Agorodd Janáček Brno 2018 ar 17 Tachwedd a bydd yn parhau tan 5 Rhagfyr a byddwn yn perfformio ar ddydd Sul 2 Rhagfyr, yng Nghanolfan Arddangosfeydd Brno - Pafiliwn P. 

Bydd yr ŵyl eleni, sef y chweched ŵyl, yn nodi 100 mlynedd ers sefydlu’r Weriniaeth Tsiecoslofacaidd. Bydd hefyd er cof am yr Athro John Tyrrell, y byddwn yn defnyddio ei olygiad beirniadol newydd o’r sgôr yn y cynhyrchiad hwn. Agorodd y digwyddiad gyda The Cunning Little Vixen gan Opera NdB (Opera National Theatre Brno) yn Theatr Janáček ar ei newydd wedd - y cynhyrchiad hwn oedd y cyntaf i gael ei berfformio yn y theatr pan agorodd yn wreiddiol - ac mae nawr ar gael i’w wylio ar OperaVision.eu 

Mae repertoire llawn Janáček yn cael ei berfformio gan gwmnïau Tsiecaidd  a rhyngwladol, gan gynnwys ni - 28 o gynyrchiadau dros y 19 diwrnod! Mae arwyddocâd diwylliannol i’r Ganolfan Arddangosfeydd, lle byddwn ni’n perfformio, gan ei bod wedi agor ym 1928, ddeng mlynedd ar ôl ffurfio’r weriniaeth, a cheir Arddangosfa Diwylliant Cyfoes i ddathlu hynny. Mae’r ŵyl eleni hefyd yn cynnwys perfformiad o Libuše gan Smetana, opera sydd pob tro’n cael ei pherfformio ar ‘ddyddiau arbennig o gofiadwy’, yn ôl cais y cyfansoddwr, ers y perfformiad cyntaf pan agorwyd Theatr Genedlaethol Prag ym 1881.

Mae partneriaeth hynod lwyddiannus WNO rhwng y Cyfarwyddwr Artistig David Pountney (sy’n adnabyddus yn rhyngwladol am ei ddiddordeb yn operâu Janáček a’i ddehongliad ohonynt) a’r Cyfarwyddwr Cerddoriaeth Tomáš Hanus,  wedi cael gwahoddiad i fynd â’n cynhyrchiad 1982 o From the House of the Dead gan Janáček i Brno, gan ei ddychwelyd adref mewn ffordd. Brno yw cartref Tomáš (a chartref Janáček) ac fe astudiodd Tomáš i ddod yn arweinydd yno, gyda’r arweinydd Tsiecaidd adnabyddus Jiří Bělohlávek, yn Academi Cerddoriaeth a Chelfyddydau Perfformio Janáček; ac yn ddiweddarach daeth yn Gyfarwyddwr Cerddoriaeth Theatr Genedlaethol Brno o 2007/2008 tan 2009. Mae hefyd wedi recordio gyda State Philharmonic Orchestra Brno a’r Prague Philharmonia - cerddorfa y chwaraeodd ran n ei sefydlu yn ôl ym 1993.

Oherwydd bod y cysylltiad hwn yn ymestyn yn ôl gyhyd, mae’r ymddangosiad hwn yn fwy arwyddocaol fyth, ac yn un sy’n cael cryn sylw gan drefnwyr yr ŵyl - sy’n dangos yr enw da sydd gan WNO yn y byd operatig ehangach.

Tomáš Hanus, a native of Janáček’s home town Brno, must have the truth of this opera in his blood and bones, if you are serious about opera, it’s unmissable

The Telegraph