Newyddion

Taith i Fienna gyda David Adams

9 Ionawr 2020

Mae David Adams, Blaenwr ac Cyngerddfeistr Cerddorfa WNO, ar daith gyda Mary Elizabeth Williams a'r Gerddorfa, yn mynd â chynulleidfaoedd ar daith i Fienna. Cawsom sgwrs â David i gael gwybod mwy amdano, y cyngherddau a pham ddylech chi ddechrau eich Blwyddyn Newydd gyda thro Fiennaidd.

Beth wnaeth i ti ddewis y feiolin? Roeddwn yn hynod ffodus bod fy nhad yn chwarae'r feiolin yn y Hallé Orchestra, felly nid wyf yn credu mai dewis oedd y feiolin, eisiau ei gopïo oeddwn i. Fodd bynnag, rwyf wastad wedi mwynhau sain y feiolin waeth beth fo'r gerddoriaeth, rwyf wir yn mwynhau tynnu'r bwa ar draws y llinynnau. 

Ble yw’r lleoliad mwyaf diddorol wyt ti wedi ymweld â Cherddorfa WNO? Rydym wedi bod yn ddigon lwcus i gael mynd i lefydd diddorol iawn dros y blynyddoedd diwethaf: y Ffindir, Hong Kong, Dubai, Oman a Moroco. Rwyf wrth fy modd yn ymweld â'r llefydd rhyfeddol hyn ac rydym wedi cael croeso cynnes lle bynnag yr ydym wedi bod, yn enwedig ym Moroco cyn y Nadolig. Un agwedd sy'n gwneud teithio yn hwyl i ni yw cyfarfod â chynulleidfa newydd a pherfformio mewn theatr neu neuadd newydd. Gall hyn roi egni a bywiogrwydd newydd i'r perfformiadau ac rydym yn ceisio ail-greu hynny lle bynnag yr awn.

Beth fyddet ti'n ei ddweud i perswadio rhywun i ddod i gael blas ar gyngerdd cerddorol am y tro cyntaf? Mae mynd i berfformiad yn cynnig rhywbeth gwahanol i bobl wahanol. Un peth sy'n gyffredin ag unrhyw gyngerdd neu berfformiad byw yw mai mwynhau eich hun yw'r peth pwysig, a gadael i'r gerddoriaeth reoli'ch emosiynau, a pheidio â thrio cyd-fynd â rhyw foesau dychmygol. Clapiwch pan gewch yr awydd, wylwch pan deimlwch yr emosiwn, peidiwch â siarad, dim ond er mwyn i chi wrando'n astud oherwydd bod bob perfformiad yn unigryw ac ni chewch ei glywed eto.

Beth yw eich cyfrifoldebau fel Cyngerddfeistr? Mae cyngerdd annibynnol yn gweithio'n wahanol i gyngerdd sydd ag arweinydd. Mae gennyf lawer o gyfrifoldeb fel Cyngerddfeistr; dysgu'r sgoriau a sefydlu'r prif rythmau, ond mae tynnu'r arweinydd i ffwrdd yn rhoi mwy o gyfrifoldeb i'r chwaraewyr. Mae newidiadau aml i'r rhythm a chwarae gyda rhyddid mynegiannol (rubato) yn y gerddoriaeth hon. Er mwyn i hyn weithio heb arweinydd, mae angen i'r grŵp cyfan ddeall yr eiliadau hyn mewn ffordd ddyfnach, ni allwn ddilyn yr hyn a welwn yn y sgôr yn unig. Mae'n rhaid i ni allu ymateb hyd yn oed yn gyflymach a gwrando'n fwy awyddus ar ein gilydd i ni allu symud gyda'n gilydd a siapio'r gerddoriaeth yn yr un modd. Mae'r Gerddorfa yn llawn cerddorion rhyfeddol sydd â greddfau wedi'u mireinio'n dda, ac mae'r cyngherddau hyn yn gyfle i ni fwynhau ein rhinweddau ein gilydd mewn modd penodol iawn.

Beth yw dy hoff ran o'r cyngerdd? Fy hoff ddarn yw Morgen gan Strauss. Y rhannau gorau yw pan fydd y gerddorfa yn cael ennyd o rubato sydd i weld yn digwydd drwy wyrth. Fodd bynnag, byddaf yn teimlo'r rhyddhad mwyaf pan mae’r gynulleidfa yn chwerthin ar jôcs gwael.

Beth ddylai'r gynulleidfa gadw llygad amdano? Dylai'r gynulleidfa gadw llygad agored am ryngweithiad rhwng y perfformwyr. Mae llwyfan heb arweinydd yn amgylchedd arbennig o fywiog.

Mae taith cyngerdd Taith i Fienna WNO wedi ei chyflwyno er cof am Martin Furber.