Roedd y 1970au yn ddegawd o gynyrchiadau newydd yn Opera Cenedlaethol Cymru. Ymhlith y casgliad oedd perfformiad cyntaf y byd o opera gyntaf y cyfansoddwr o Gymru, Alun Hoddinott, yn 1974. Dyma'r opera lawn newydd gyntaf i ymddangos yng Nghymru ers bron i 15 mlynedd a'r cyntaf o'i math ers comedi un act Grace Williams, sef The Parlour, a gafodd ei berfformio gan WNO am y tro cyntaf yn 1966. Felly, roedd ein cynhyrchiad o The Beach of Falesá gan Hoddinott yn torri tir newydd.
Ac yntau eisoes wedi'i sefydlu'n gyfansoddwr o fri gyda chorff gwaith eang a thrawiadol, roedd Hoddinott wedi bod yn aros am gyfnod hir i ysgrifennu ei opera gyntaf pan gafodd ei gomisiynu i gyfansoddi darn ar gyfer ei gwmni opera cenedlaethol. Gyda phum pwnc yn barod, bu'n pendroni rhwng stori Rawlins White, merthyr Cymreig cyntaf y Chwil-lys a Falesá.
Welsh Music, Gwanwyn 1974Yn bersonol, mae popeth sydd wedi bod cyn hyn bron yn rhagarweiniad i'r gwaith mawr hwn. Er, wyddoch chi, mae'n debyg na fyddai llawer o bobl yn honni bod pum symffoni yn rhagarweiniad. Gwyddwn cyn gynted ag y darllenais stori Robert Louis Stevenson mai opera ydoedd, felly mi es amdani. Ac, wrth gwrs, y peth arall oedd bod y brif rôl ynddi yn ddelfrydol i Geraint [Evans].
Mae The Beach gan Robert Louis Stevenson yn chwedl ddirgelwch ymhlith masnachwyr ar ynys ddienw ym Moroedd y De. Nid Hoddinott oedd y cyntaf i gael ei ysbrydoli gan y stori hon. Roedd Dylan Thomas, bardd ac ysgrifennwr enwog o Gymru, eisoes wedi addasu'r stori yn sgript ffilm ond, er gwaethaf iddi ennyn diddordeb Richard Burton, ni chafodd erioed ei ffilmio. Yn y pendraw, cafodd y gwaith ei ryddhau fel ffilm leisiau, yn serennu Matthew Rhys, actor o Gymru sydd wedi ennill Gwobr Emmy, ar BBC Radio 3 yn 2014 i nodi canmlwyddiant Thomas.
Gyda'r comisiwn wedi'i sicrhau, anfonodd Hoddinott y stori wreiddiol a sgript anadnabyddus Thomas at y nofelydd a'r bardd Glyn Jones yng Nghaerdydd, gan ofyn iddo ddarparu libreto. Dros dair blynedd, daeth y stori dwyll, ofn ac ymdeimlad torcalonnus o dynged, yn fyw.
Welsh Music, Gwanwyn 1974Mae'r holl agweddau amrywiol ar fy arddull wedi'u dwyn ynghyd mewn un darn o waith. Rwy'n meddwl y bydd sawl un yn cael eu synnu! Wedi'r cyfan, os ydych yn ysgrifennu rhywbeth sy'n mynd i bara dwy awr a hanner, rhaid i chi gynnwys cymaint o amrywiaeth â phosibl. Ac mae'r setiau yn hyfryd, — maen nhw hyd yn oed yn fwy hardd nag y dychmygais, maent yn hynod ramantus ac yn cynnwys lliwiau hyfryd.
Trefnwyd cast cryf - Syr Geraint Evans fel Case, Sandra Browne fel Uma a Forbes Robinson fel Black Jack.
Cafodd yr opera ei chynhyrchu gan Gyfarwyddwr Cynyrchiadau WNO, Michael Geliot, a'i dylunio gan Alexander McPherson a aeth ymlaen yn ddiweddarach i fod yn Bennaeth Dylunio yn yr Old Vic ym Mryste.
Dan arweiniad Richard Armstrong, agorwyd yr opera yn New Theatre Caerdydd ar 26 Mawrth 1974, a dyma oedd dechrau Tymor y Gwanwyn 1974 Opera Cenedlaethol Cymru, a oedd hefyd yn cynnwys Idomeneo gan Mozart, La bohème gan Puccini a The Pearl Fishers gan Bizet.
Denodd newydd-deb opera newydd gan gyfansoddwr byw gynulleidfa fawr, a gwyliodd bedair miliwn a hanner o bobl y darllediad teledu.